Pobl Dewi: Rhagfyr 2023
“Dewch ar y daith hon gyda'n gilydd”
Y mae gan Esgobaeth Tyddewi Esgob newydd.
Etholwyd Dorrien Davies, cyn Archddiacon Caerfyrddin, ym mis Hydref mewn cyfarfod deuddydd o’r Coleg Etholiadol, yn eistedd tu ôl i ddrysau caëdig yn eglwys gadeiriol Tyddewi.
Dywedodd Dorrien ei fod yn teimlo’ anrhydedd a dyletswydd’ am ei ddyrchafiad. Ond, dywedodd, ‘nid yw hyn amdanaf fi, nid yw am y swydd na’r awdurdod sy’n dod gydag e, mae am wasanaeth’.
‘Rhaid i’n pwrpas cyffredin fel esgobaeth fod yn un o gyd-weithio colegol. Yr wyf am gael trafodaethau gyda phobl. Yr wyf yn bwriadu pwyllo i ddechrau ond fe fydd newidiadau ac nid ydynt yn mynd i fod yn rhai rhwydd. Yr wyf ond am i ni wneud y daith hon gyda’n gilydd.
Eiliad deimladwy
Daeth y Tywysog a Thywysoges newydd Cymru ar eu taith swyddogol gyntaf i Eglwys gadeiriol Tyddewi ym mis Medi i nodi blwyddyn ers marwolaeth y cyn Frenhines.
Buont yn mynychu gwasanaeth byr cyn gosod blodau wrth ei phortread, gan gerdded o gwmpas yr eglwys gadeiriol a llofnodi llyfr yr ymwelwyr.
Wrth iddynt ymadael, gwenodd yr haul, canwyd y clychau a rhoddwyd iddynt dusw o flodau gan ddisgyblion Ysgol Penrhyn Dewi, yr ysgol Eglwysig 3-16 oed leol.
Sut mae trafod Ffoaduriaid fel Bodau Dynol.
Mae’n fore Sadwrn yng Nghadeirlan Anglicanaidd yr Holl Saint yng nghanol Cairo a pharatoadau dan law ar gyfer ffair waith y dydd. Ond mae’n ffair waith wahanol. Ffoaduriaid yw’r cleientau bob un.
Yn yr eglwys gadeiriol
FFOCWS AR WEINIDOGAETH LEOL DI-GYFLOG
EI GADW’N LLEOL
Gwêl yr hydref hwn ddegfed penblwydd gweinidogaeth GDG(Ll) sef Gweinidogaeth Di-Gyflog(Lleol) [NSM(L)] o fewn esgobaeth Tyddewi
Ganwyd y syniad o ganlyniad i chwiliadur a ddyfeisiwyd ar gyfer ateb gofynion a galwadau plwyfi. Roedd mwyafrif llethol yn daer am wasanaeth cymun cyson dan arweiniad clerigwyr yr oeddent yn eu hadnabod ac am dalu llai o gyfranedd ariannol.
Roedd hynny’n ymddangos yn orchwyl amhosib.
Rhiannon Johnson, Cyfarwyddwr y Weinidogaeth, yn olrhain ei hynt.
CRYDFER MEWN NIFEROEDD
Wedi deng mlynedd o Weinidogaeth Di-gyflog Leol (GDg(Ll)) yn yr Esgobaeth a beth ddysgom ni?
Ers y cychwyn, casglodd prosiect ymchwil parhaol data ystadegol am y rhai a gynigiodd am y weinidogaeth hon. Yn ddiweddar casglwyd hefyd data o grŵp safonol yn cynnig am weinidogaeth cyflogedig. Y mae’r ffigyrau hyn nawr yn ddigon mawr i ni allu dod i rai casgliadau.
Parch. Carys Hamilton
Mi rhoiodd y 'system NSM(L)' yr hyder imi ddilyn fy ngalwedigaeth i'r
Weinidogaeth. Roedd yr hyfforddiant yn wych o dan adain Canon Rhiannon
Johnson. Fe wnes dderbyn cefnogaeth a'r annogaeth oedd ei angen arnaf i
wneud y cam nesaf, sef i mentro i fod yn Gyflogedig (Stipendiary). Ers
hynny, dwyf y ddim wedi edrych yn ôl ac wrth fy môdd yn fy ngalwedigaeth.
Myfyrdodau Nadolig
Addurno am y 'dolig
Nadolig yn y Wlad Sanctaidd
Y mae Mones Farah yn cofio Nadolig wrth iddo dyfu ym Mhalestina
Llyfrau
Ysgrifau ar gyfraniad Yr Eglwys yng Nghymru i’n llên a’n hanes a’n diwylliant.
Cyfrol 1
Golygyddau: A. Cynfael Lake and D. Densil Morgan
Cyhoeddwr: Y Lolfa 2023
ISBN: 978-1-800994553
Pris: £12
Ysbrydion sy’n gweini yn barod i wasanaethu
Awdur/Cyhoeddwr: Geraint Wyn Jones
ISBN: 979-8866773077
Pris: £13.99 / £8.99