Bu’n flwyddyn o flynyddoedd i’w cofio
Pan yn gweithio ymysg 1400 mlynedd o hanes, daw dathliad penblwydd neu ddau i’r amlwg yn lled aml. Mari James, Swyddog Datblygu Llyfrgell Eglwys Gadeiriol Tyddewi sy’n ein hatgoffa o hynny.
Bu 2023 yn flwyddyn dathlu cydnabod Tyddewi fel cyrchfan pererindod rhyngwladol. Ym 1123, dynododd y Pab Calixtus ll ddwy bererindod i Dyddewi cydradd o ran “mantais bendithiol” ag un i Rufain. Mae’n addas felly ein bod eto wedi bod wrthi yn croesawu pererinion ac ymwelwyr yn ôl o bedwar ban byd. O ganlyniad, rydym hefyd wedi bod yn ymdrin â nifer o ymholiadau amrywiol yn llyfrgell y gadeirlan.
Bu 2023 hefyd yn flwyddyn i gofio’r cofnodwr, clerigwr a chyfreithiwr eglwysig hynod o’r 12fed ganrif, Gerallt Gymro, ar 800fed penblwydd ei farw. Ysgrifenodd Gerallt mewn Lladin dan yr enw Giraldus Cambrensis. Ni wyddis yn iawn faint o ysgrifennu wnaeth e’ gan ein bod yn dal i ddod o hyd i waith ganddo a hwnnw’n cael ei argraffu yn Saesneg, sy’n ehangu ei gynulleidfa.
Y gorau o’i weithiau yw ei gofnod o’i daith trwy Gymru gyda’r Archesgob Baldwin yn recriwtio ar gyfer y drydedd Groesgad. Cydnabyddir y gwaith erbyn hyn yn glasur a byddai Gerallt yn siŵr wedi cymeradwyo hynny. Wyth canrif yn ddiweddarach, mae ei gofnod ar gael yn siop y Gadeirlan. Gwyddom o’i gofnodion i’r ddau wario tridiau yn Nhyddewi ym mis Mawrth, 1188.
Y peth arall y gwyddom am Gerallt yw sut cafodd ei rwystro rhag bod yn Esgob Tyddewi gan y Saeson a’r Brenhinoedd Normanaidd a sut y cymerodd ei achos at y Llŷs Pabyddol yn Rhufain dair gwaith. Fel y byddech yn disgwyl, ysgrifennodd am hynny’n hir a helaeth - mewn Lladin. Rydym yn dra ffodus bod Yr Athro Norman Doe o Brifysgol Caerdydd yn y flwyddyn ddathlu hon wedi cyfieithu cyfrif cydnerth Gerallt a’i ddramateiddio yn Saesneg o dan y teitl, “Thrice to Rome.” Cafodd y gwaith ei gyhoeddi i’r byd yn ystod Wythnos y Llyfrgell yng nghôr Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Roedd gweld a chlywed geiriau Gerallt yn cael bywyd yn y gadeirlan oedd mor gyfarwydd iddo, yn yr henadurfa gyferbyn â’r ddelw ohono, yn brofiad cofiadwy.
Bydd Llyfrgell yr Eglwys Gadeiriol yn ailadrodd y cynhyrchiad ar ddydd Sadwrn, 23ain. Mawrth 2024. Cadwch lygad ar ein tudalen, ‘EventBrite,’ er mwyn archebu tocynnau. Rydym wrth ein boddau hefyd o wybod y caiff ei gynhyrchu yn ‘Middle Temple’ yn Llundain yn ystod wythnos Gŵyl Dewi ar ddechrau mis Mawrth.