GDg(Ll): Y Parch. Joan Allen
Joan gwneud popeth
Mae ‘mywyd i’n chwyrlwynt o weithgareddau - d’yw f’wythnosau ddim tebyg i’r cytundeb gwreiddiol wnes i ei arwyddo! Mae fy ngweinidogaeth wedi bod yn amrywiol a dw i wedi cael fy hunan yn ymgymryd â llawer o weinidogaeth estyn allan. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r Ysgol Gynradd leol, sefydlu Clwb ar ôl Ysgol ar gyfer y plant hŷn, sefydlu Caffi Eglwys o fewn sesiynau Coffi, Cacen a Chlonc a hefyd sefydlu Grŵp Rhiant a Phlant Bach. Wrth gwrs dw i hefyd yn cymryd gwasanaethau rheolaidd ar y Sul a’r Gwasanaethau Sanctaidd o bryd i’w gilydd yn ôl y galw - a dw i’n ymwybodol iawn o hyd y fath anrhydedd yw hyn. Mae wedi bod yn anodd peidio â cholli golwg ar yr agwedd ‘L’ o’m galwedigaeth. Dw i’n wirioneddol deimlo mod i wedi fy ngalw i weithio o fewn cyd destun arbennig ac mae prysurdeb fy ngweinidogaeth yn aml yn fy nhynnu i ffwrdd oddi wrth hyn.
Mae sgyrsiau â nghydweithwyr yn awgrymu i fi ‘mod i mor brysur â chlerigwyr llawn amser - ac mewn sawl agwedd yn cario’r un cyfrifoldebau. D’yw hyn ddim yn broblem, er fy mod i weithiau’n dymuno y gallwn gael mwy o amser i ffocysu ar agweddau arbennig o weinidogaethu a chenhadu. Y mae wrth gwrs rai anfanteision ymarferol o fod yn GDg(Ll) Dw i ddim yn byw ‘yn fy ngwaith’ a bu raid i fi neulltio gofod neu le arbennig ar gyfer gwaith plwyf, ble y galla i gwrdd ag unigolion neu gyplau. D’yw hyn ddim yn broblem - ond mae’n rhaid i fi gofio dweud wrh bobl i wisgo dillad cynnes!