Codi arian ym Madagascar
Y ffair yn ysgol Imerintsatiosioka ( a mwy!)
Gan ein bod mor eithriadol o brin o arian penderfynwyd cynnal ‘fête’ gyda dawnsio a chanu, stondinau gyda gwaith llaw a chynnyrch lleol ar werth ac arddangosfa o waith rhai o’r disgyblion. Fyddai hyn ddim yn broblem yn y DU – jyst trefnu a’i wneud, ond ym Madagascar roedd llawer o weinyddu i fynd iddo cyn y gallem wneud unrhyw baratoadau. Roedd angen caniatad ysgrifenedig gan faer y pentref, y Chef de Canton (haenen nesa’r hierarchiaeth leol), y Sous-Préfet) un cam yn uwch yn yr hierarchiaeth) y Préfet (fel Cadeirydd Cyngor Sir) a Chef de Province (fel PrifWeinidog Cymru neu’r Alban).
Dechreuwyd gyda bwndel mawr o bapurau yn barod i’w harwyddo a bant â ni i weld y maer. Roedd yn gefnogol iawn a llofnododd ein papurau â phleser – ond daeth yn amlwg ei fod yn anllythrennog ac wedi llofnodi yn y mannau anghywir! Gwnaethom set arall o bapurau ac ail-ddechrau. Wedi eu llofnodi’n gywir aethom at y Chef de Canton a’r Sous-Préfet, oedd ill dau yn byw yn y pentre ac yn hapus i lofnodi. Y broblem nesa oedd y Prefet oedd yn byw mewn tref tua 30 milltir i ffwrdd. Fi oedd y brifathrawes ac roedd car gyda fi felly un diwrnod ar ôl ysgol bant â fi. Wedi cyrraedd gwahoddodd y Préfet fi i’w swyddfa, anfon ei ysgrifenyddes i ffwrdd, cloi’r drws a dechrau bod yn gyfeillgar IAWN! Roedd ofn arna i ond penderfynais ei drin fel jôc ac yn ffodus daeth at ei bethau a llofnodi’r papurau. Roedd y Chef de Province yn byw yn y brifddinas ond gan mod i’n mynd yno bob penwythnos roedd yn gymharol hawdd i mi wneud apwyntiad a chael ei lofnod. Cymerodd hyn i gyd o leiaf bythefnos!
Digwyddodd y ‘fête’, daeth tyrfa eitha mawr a chael peth elw ond dyna’r tro cynta a’r ola i ni wneud y math hyn o godi arian.
Yn y pentre doedd dim dŵr o’r tap, dim trydan a’r tŷ bach oedd twll yn yr ardd wedi rhannu gyda sawl teulu felly es i bob penwythnos i’r brifddinas i wneud y golch a phrynu bwyd. Bûm hefyd yn chwarae cerddoriaeth bob nos Sadwrn gyda’r Llysgennad a’i wraig. Mwy i ddod….