Plygain yn yr Eglwys Gadeiriol
Y mae Patrick Thomas yn dathlu traddodiad Cymreig hynafol
Daw’r gair ‘Plygain’ o’r Lladin am ganiad y ceiliog. Yn wreiddiol yr oedd yn disgrifio gwasanaeth Nadolig yn gynnar yn y bore rhwng 4 a 6yb. Yr oedd yn cynnwys carol neu garolau a ysgrifenwyd yn arbennig (yn aml wedi eu cyfansoddi gan y clochydd) ac yn cael ei ddilyn gyda gwasanaeth y Cymun yn coffáu ymweliad y bugeiliaid â’r stabal ym Metrhlehem.
Yn aml byddai’r offeiriad yn cael cwmni o’i dŷ i’r eglwys gan blwyfolion yn dal llusernau neu ganhwyllau wedi eu haddurno. Byddai gwragedd a phlant yn treulio’r oriau cyn y gwasanaeth yn paratoi cyflaith i’w fwyta yn ystod y gwasanaeth. Efallai mae’r rheswm dros hyn oedd bod y carolau Plygain cynharaf yn aml yn hir dros ben gyda chynnwys athrawiaethol trwm.
Y bardd a wnaeth fwyaf i sicrhau bod traddodiad y Plygain yn goroesi’r Diwygiad oedd Rhys Pritchard, ficer Llanymddyfri yn yr ail ganrif ar bymtheg. Bu gwrthwyneb chwyrn i ymgais Cromwell i ddiddymu dathlu’r Nadolig yng Nghymru. Arweiniodd hyn at ddadeni syfrdanol cyfansoddi carolau y Plygain yng Ngogledd Ddwyrain Cymru gan feirdd Anglicanaidd pybyr.
Cynhaliwyd gwasanaethau Plygain adeg yr Ystwyll yn ogystal â’r Nadolig. Datblygodd yr arfer yn raddol o gynnal gwasanaeth Plygain gyda’r nos a byddai gwahanol grwpiau o bobl yn cyfrannu. Deuai pob grŵp o gantorion â’u carol neu garolau eu hunain. Dechreuwyd cynnal y gwasanaethau mewn capeli yn ogystal ag eglwysi.
Yn Esgobaeth Tyddewi goroesodd y Plygain bore cynnar mewn sawl eglwys nes bod newid diwylliannol, newid ffasiwn a phrinder offeiriaid yn cael effaith andwyol. Fel curad yn Aberystwyth a Chaerfyrddin yn 70au hwyr a 80au cynnar byddwn yn cymeryd rhan mewn gwasanaethau Cymun Plygain 6 o’r gloch y bore mewn eglwysi Cymraeg eu hiaith. Wedi dod yn Rheithor Brechfa yn 1984 cafodd ein gwasanaeth Plygain 6 y bore fywyd newydd pan ffurfiwyd ein parti canu carolau ein hunain. Gobeithio bod ein brwdfrydedd wedi gwneud i fyny am ddiffyg ansawdd yn ein hymdrechion boreol di-gyfeiliant.
Daeth gwasanaethau Plygain gyda’r nos, yn dilyn y patrwm a ddatblygodd yng Ngogledd Cymru, yn fwy cyffredin yn ein hesgobaeth mewn degawdau diweddar. Paratowyd casgliadau ardderchog o garolau Plygain traddodiadol gan y diweddar Ganon Geraint Vaughan Jones a Dr Rhiannon Ifans. Cefais y pleser o fod yn bresennol mewn gwasanaethau Plygain gyda’r hwyr yn Llanddarog a Phenrhyncoch, a byddwn yn argymell yn gryf eich bod yn mynychu’r Plygain yn yr Eglwys Gadeiriol ar Ragfyr 15fed am 7 o’r gloch er mwyn cael profiad unigryw Nadoligaidd Cymreig sydd wedi ei wreiddio yn nhraddodiad eglwysig.