Mae'r esgobaeth yn cael ysbrydoliaeth ac arweiniad gan y Pum Marc Cenhadaeth...
- I gyhoeddi newyddion da y deyrnas
- I addysgu,bedyddio a meithrin credinwyr newydd
- I ymateb i angen dynol drwy wasanaeth cariadus
- I herio trais, anghyfiawnder a gorthrwm, a gweithio dros heddwch a chymod*
- I ymdrechu at ddiogelu cyfanrwydd y cread a chadw ac adnewyddu bywyd y ddaear
Datblygwyd y Pum Marc gan y Cyngor Ymgynghori Anglicanaidd / Anglican Consultative Council mewn cyfres o gyfarfodydd o 1984 i 1990, ac wedi'r cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghymru, fe'u mabwysiadwyd gennym.
* Diweddarwyd y pedwerydd marc yn hwyr yn 2012 i adlewyrchu pwysigrwydd cenhadaeth Duw mewn heddwch, trawsnewid a chyfaddawdu gwrthdaro
Mae'r weddi Genhadol yn ein tywys at galon yr hyn y credwn bod Duw yn ein galw i wneud ac i fod. Gwyddom y bydd cynlluniau a mentrau wastad yn dibynnu ar ansawdd byw a disgyblaeth Gristnogol yn yr esgobaeth. Ac felly gweddiwn: