Hafan Amdanom ni Y Gynhadledd Esgobaethol 2024

Y Gynhadledd Esgobaethol 2024

Teulu Dewi

Cynhaliwyd Cynhadledd 2024 ddydd Sadwrn 5 Hydref yng Nghanolfan Halliwell, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP.

Papurau'r gynhadledd:

Agenda ac adroddiadau [PDF]

Crynodeb o’r Cyfrifon

Cyllideb 2025

  • Cynnig Ychwanegol (Materion Cyfansoddiadol)

Cynnig i Ddileu Cyfeiriadau at y 4edd Archddiaconiaeth

Mae'r Gynhadledd hon yn nodi:

  1. Bod y 4edd Archddiaconiaeth wedi peidio â bodoli
  2. Bellach, bod yr Archddiacon Cymunedau Cristnogol Newydd yn cael ei alw’n Archddiacon Cenhadol
  3. Ei bod yn bwysig bod Cyfansoddiad yr Esgobaeth yn adlewyrchu strwythurau cyfredol yr Esgobaeth.

Mae'r Gynhadledd hon wedi penderfynu:

  1. Diwygio Cyfansoddiad yr Esgobaeth fel ag y mae i gael gwared ar bob cyfeiriad at y 4edd Archddiaconiaeth – gan gynnwys mewn meysydd cynrychiolaeth.
  2. Bod unrhyw gyfeiriad at yr Archddiacon Cymunedau Cristnogol Newydd yn cael ei ddisodli i gyfeirio at yr Archddiacon Cenhadol.
  3. Cyfarwyddo’r Cyd-ysgrifenyddion i ddiwygio Cyfansoddiad Cynhadledd yr Esgobaeth i’r perwyl hwnnw.

Cynigydd: Yr Arglwydd Esgob

Eilydd: Yr Archddiacon Cenhadol

Wedi'i dderbyn yn unfrydol

  • Cynnig Brys

Er bod Esgobaeth Tyddewi yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae'n ei derbyn gan Gorff y Cynrychiolwyr [yr Eglwys yng Nghymru] ac yng ngoleuni cryfder eu sefyllfa ariannol, fel y gwelir yn eu cyfrifon yn 2023, a'r pwysau ariannol cynyddol ar Ardaloedd Gweinidogaeth ac eglwysi, mae Esgobaeth Tyddewi yn gofyn i Gorff y Cynrychiolwyr fynd ati i gynyddu ei gefnogaeth ariannol i'r weinidogaeth rheng flaen ym mhob esgobaeth yn y Dalaith.

Mae Cynhadledd yr Esgobaeth yn cyfarwyddo Pwyllgor Sefydlog yr Esgobaeth i baratoi cynnig wedi'i eirio'n addas i'w gyflwyno i'r Corff Llywodraethol.

Cynigydd: Yr Hybarch Mones Farah

Eilydd: Y Parchedig Matthew Webster

Wedi'i dderbyn gyda 5 yn Atal Pleidlais