Swyddfa'r esgobaeth
Yn Esgobaeth Tyddewi mae Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro - ardal sydd yn 2,266 milltir sgwar yn Ne Orllewin Cymru.
Rhennir yr Esgobaeth yn dair Archddiaconiaeth:
- Aberteifi, Caerfyrddin a Thyddewi
Mae Swyddfa'r Esgobaeth ar gau hyd nes y nodir yn wahanol, er mwyn cydymffurfio gyda chyfarwyddiadau'r Llywodraeth yn ystod pandemig y Coronafeirws.
Mae'r staff yn gweithio o adre neu ar leoliadau eraill oddi ar y safle. Mae ebyst, post a negeseuon ffôn yn cael eu monitro yn ddyddiol.
Os ydych angen cysylltu gyda'r swyddfa, bydd angen llenwi'r ffurflen gyswllt os gwelwch yn dda.
Gweinyddiaeth
Staff Swyddfa'r Esgobaeth yn Abergwili, Caerfyrddin sy'n ymgymryd â gwaith gweinyddol yr Esgobaeth.
Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi a'i Is-Bwyllgorau sydd yng ngofal yr ochr ariannol o'r gwaith. Mae'r Bwrdd Cyllid yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant.
Mae Swyddfa'r Esgobaeth yn gweithredu fel canolfan adnoddau i gefnogi aelodau clerigol a lleygwyr yn yr esgobaeth. Ceir dwy ystafell gyfarfod yno a gall sefydliadau'r Esgobaeth eu defnyddio yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â ni i drefnu.