Parhau i Siarad...yn yr iaith Dewi Sant
Mae Felicity Roberts yn gosod her i’r Eglwys heddiw barhau â gwaith anhygoel arloesol a wnaed ganddi dros yr iaith Gymraeg
Mae’n rhaid cydnabod bod cyfraniad yr Eglwys wedi bod yn gwbl ganolog yn hanes gwarchod yr iaith Gymraeg. Heb y gwaith aruthrol a chwbl dyngedfennol a wnaethpwyd gan wŷr ymroddgar yr Eglwys, byddai sefyllfa’r iaith Gymraeg yn debygol o fod yn wahanol iawn heddiw
Mae yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fod i’r Beibl gael ei gyfieithu i’r Gymraeg wedi achub yr iaith. Cydnabyddir Yr Esgob William Morgan fel yr un a gwblhaodd y gwaith hwn yn y lle cyntaf, ym 1588. Fodd bynnag mae cofgolofn y tu allan i Eglwys Gadeiriol Llanelwy yn coffáu 7 arall, pob un ond William Salesbury yn glerigwyr eglwysig
Yn y ddeunawfed ganrif, wedyn Y Parchedig Griffith Jones Llanddowror sydd yn cael ei gydnabod fel yr un a barodd i raddau helaeth fod y Cymry wedi dod yn genedl lythrennog, drwy eu dysgu i ddarllen yn ei ysgolion cylchynol, a hynny er mwyn iddynt allu darllen y Beibl.
Yn yr Eglwys y cychwynnodd William Williams Pantycelyn ar ei yrfa hefyd : yr emynydd mawr dihafal a gyfoethogodd gymaint ar ein haddoliad gyda’i emynau amhrisiadwy.
Gadewch i ni yn yr Eglwys heddiw, a hithau yn dal i fod yn her aruthrol i ni allu cynnal y Gymraeg yn y byd cyfoes, barhau â gwaith yr arloeswyr dewr a weithiodd yn ddiflino i wneud gwaith yr Arglwydd Iesu Grist gan ddefnyddio’r Gymraeg yn ddilyffethair.
Mae gennym system sydd yn gweithio i bobl na chafodd y Gymraeg fel plant, allu ei dysgu fel oedolion. Yn ardal Aberystwyth, dau y mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy ac sydd yn profi bod hyn yn bosib ydy Y Parchedig Mark Ansell sydd â gofal dros Eglwys Gymraeg y Santes Fair fel rhan o’i gyfrifoldeb, a’r Parchedig Andrew Loat sydd â chyfrifoldeb dros gynnal y gwasanaeth Cymraeg yn Eglwys Llanbadarn Fawr yn rhan o’i waith. Dau arall a ddysgodd yn wych ac sy’n cyfrannu yn yr ardal yw’r Parchedigion Nicholas Bee a Jeffrey Gainer.
Dengys y rhain ei bod yn bosib dysgu’r Gymraeg yn llwyddiannus a chyfrannu at ei ffyniant yn hytrach na’i thranc.
Yn ogystal â galluogi pobl i ddysgu’r Gymraeg, mae dosbarthiadau yn hwyl. Dau beth sydd yn hanfodol i lwyddo ydy‘r parodrwydd i ddal ati yn gyson, a’r parodrwydd i fentro defnyddio’r iaith, gan wynebu’r ffaith y bydd yn rhaid gwneud llawer o gamgymeriadau i ddechrau.
Gellir dysgu Cymraeg drwy Brifysgol Aberystwyth. Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr | Dysgu Cymraeg