Addurno am y 'Dolig
Y mae Ann Barlow yn cofio Nadoligau’r gorffennol, yma a thramor
Dros y blynyddoedd mae tipyn o ddadlau wedi bod yn ein tŷ ni yn ystod y tymor yma. Y cwestiwn pennaf dan ystyriaeth oedd pa bryd y dylid addurno’r aelwyd go gyfer â’r Nadolig. Rwy’n siwr bod llawer o deuluoedd yn debyg, gyda’r plant eisiau gwneud hynny cyn gynted â phosib.
Cefais fy magu mewn Ficerdy ac roedd pawb yn rhy brysur i feddwl am addurno’r tŷ cyn y funud ola. Roedd addurno’r eglwys yn cael blaenoriaeth fel bod popeth yn ei le erbyn y gwasanaethau carolau. Roedd te parti’r Ysgol Sul a’r cyngerdd fyddai’n dilyn hefyd i’w paratoi cyn Nadolig. Fel arfer fydde dim cyfle i ddod â choeden Nadolig yn agos i’r tŷ cyn Noswyl y Nadolig.
Ar ôl gadael y Ficerdy, bûm yn byw am flwyddyn yn yr Almaen a chyfarwyddo yno â thraddodiadau gwahanol. Yno fydde’r Advent Kranz, neu’r dorch, yn cael ei rhoi ar y bwrdd cinio ar y Sul cyntaf yn Adfent gyda phedair canwyll yn cael eu goleuo un ar bob Sul, gyda’r pumed ar Ddydd Nadolig. Gwn bod hyn yn arferiad cyffredin yn ein heglwysi nawr ond hanner can mlynedd yn ôl doedd dim sôn amdano yma. Hefyd yn fy amser yn yr Almaen, ‘rwy’n cofio am y coed tu allan i’r tai yn cael eu goleuo ar ddechrau’r tymor ond fyddai’r goeden yn y tŷ ddim yn cael ei haddurno hyd y noswyl.
Peth amser ar ôl hynny treuliais flwyddyn yn byw yn Ffrainc. Fy nghof o’r paratoadau yno oedd gweld ffigyrau stori’r geni yn ymddangos yn ffenestri’r siopau ac yn y cartrefi. Roedd yn bwysig yn Ffrainc i beidio tynnu’r addurniadau lawr cyn y chweched o Ionawr pan fyddai teuluoedd yn dod ynghyd i ddathu dyfodiad y doethion, gyda ‘galette du Roi’ yn cael ei fwyta, a’r un fyddai’n darganfod tlws yn y gacen yn cael ei ethol yn frenin y nos.
Ond beth am nawr? Mae’n plant wedi hen hedfan y nyth. A oes angen coeden ac addurno fel arfer? Wrth gwrs. Mae’r bocs addurniadau’n llawn atgofion. Mae yno angylion pren o’r Almaen, rhai wedi colli ambell i adain erbyn nawr, y preseb o Ffrainc, ‘impulse buys’ o haf dreuliwyd yng Nghalifornia, lle mae siopau yn gwerthu dim ond addurniadau Nadolig drwy’r flwyddyn, popeth yn cael lle gyda’r cadwynau a’r sêr a grewyd o flwyddyn i flwyddyn gan y plant, a phob un o’r trugareddau yn cyfrannu at lawenydd yr Ŵyl.