Cynhadledd Efengylu Cymreig
Bu Rhian Morgan i’r Gynhadledd ar ran yr Esgobaeth
Dos allan i’r dŵr dwfn a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa (Luc 5:4)
Dyma oedd thema y Gynhadledd Efengylu Cymreig – digwyddiad rhyng-esgobaethol a chyd- enwadol – gynhaliwyd ddiwedd Hydref yng Nghaerdydd.
Nan Powell-Davies, arweinydd y Presbyteriaid yng Nghymru ollyngodd y cwch i’r dŵr. Mewn araith ysbrydoledig dywedodd‘ dyw dŵr dwfn ddim yn lle cyffyrddus. Lle tywyll ac oer ar brydiau, lle sy’n peri ofn a phanic, lle arswydus achos mae’n gofyn i ni fentro’.
Dyna, meddai Nan yw ein profiad wrth arloesi a rhaid wrth ddewrder a dycnwch. Yn aml rhaid gwneud penderfyniadau dychrynllyd o anodd.
Yng nghymanfa gyffredinol y Presbyteriaid yn 2021,roedd rhaid iddi ymateb i gost cynnal adeiladau ‘Nid yw ein patrymau presennol yn ddigon effeithiol .Mae’r cyfarwydd yn marw ar ei draed’ meddai.
Neges Nan oedd yr angen am ddatblygu ffyrdd newydd o weithredu a gweithio yn gyd- enwadol er mwyn gollwng y rhwydau i’r dŵr.
Lle ac adeilad oedd man cychwyn cyflwyniad y Prifardd Siôn Aled wrth sôn am Dyddewi, a’r mannau cyfyng. Cawsom hanes pererindod Cadfan Sant, prosiect gan Esgobaeth Bangor a ddenodd feirdd a cherddorion ac a arweiniodd at berfformiad gan Llion Williams fel Cadfan ei hun ar faes y Brifwyl.
Ategodd Deon Tyddewi y Gwir Barchedig Sarah Rowland Jones bod dros 300,000 o bob rhan o’r byd yn ymweld â’r Eglwys Gadeiriol bob blwyddyn.
Cawsom ein hysbrydoli gan y Parch Rhys Llwyd o gapel Caersalem yng Nghaernarfon. stori sy’n ein hatgoffa fod twf yn bosib pan mae pobl eisiau ysgrifennu pennod mwy gobeithiol yn dod ynghyd’.
Yna cafwyd sgwrs rhwng Deon Llanelwy ac Is Ddeon Bangor, Canon Siôn Rhys [llun] am rym cadeirlannau fel conglfeini ysbrydol a pwysleisiwyd gwerth hanes ac ysbrydoliaeth Geltaidd a litwrgi a cherddoriaeth safonol.
Dros y deuddydd hwn y canlyniad oedd ein bod yn perthyn i Gymru sy’n torri ei chŵys ei hun.
Yn wir, barn Esgob Llandâf, Mary Stallard, oedd na ddylai un gwasanaeth yn y Gymru fodern fod yn gyfangwbwl yn y Saesneg a bod angen meithrin hyder mewn dwyieithrwydd sy’n siarad nid yn unig â’r pen ond â’r galon hefyd.
Daethom yn ôl at y pwnc o adeiladau yng nghyflwyniad y Parch Naomi Starkey. Soniodd am hen eglwysi bychain Sir Fôn. Fe wyddai’r saint am rym y mannau anghysbell .Fe’i hysbrydolwyd hi i’w gweld o’r newydd fel ‘betysau’, mannau gweddi, pwerdai bach yr Eglwys. Ynddynt, er na chynhelir gwasanaethau mwyach, daw cannoedd i ganfod llonyddwch ac i weddio.Ac mae’r drysau ar agor.
Wrth gloriannu y cyfan dywedodd y Parch Adrian Morgan ‘Mae’en dda cael bod yma.
Ond nid aros ar ben y mynydd yw’r nod.Mynd â’r hyn a welson ni nôl i waelod y mynydd. Mynd yn ôl i rannu ac i sbarduno eraill.’