Papur Llafar Ceredigion
Bu adfer Papur Llafar Ceredigion wedi ‘Covid’ yn orchwyl gwerthfawr, medd Syd Smith, y Cydlynydd Ail-lawnsio.
Mae’n bosib taw prin yw’r nifer a ŵyr y sefydlwyd ‘Papur Llafar i’r Dall’ sydd erbyn hyn yn fudiad led-led y DU, ym 1970 gan Ronald Sturt, darlithydd o Goleg Llyfrgellyddiaeth Cymru yma yn Aberystwyth.
Cafwyd hanner canrif o wasanaeth di-dor tan Mawrth 2020 pan ymyrrodd ‘Covid’ ac ataliwyd argraffu Papur Sain Ceredigion Talking Newspaper (PSCTN). Gwelwyd eisiau’r gwasanaeth ar gfyer y deillion a’r rhai â golwg rhannol.
Erbyn CCB Mehefin 2023, collom ein cartref gyda Chyngor Sir Ceredigion, camodd nifer o’n swyddogion a’n gwirfoddolwyr bant, y mwyafrif o achos salwch neu oedran a methwyd cysylltu â hanner ein gwrandawyr. Roedd dod i ben yn ymddangos yn anochel. O wybod yn bersonol faint o werthfawrogiad oedd i’r PSCTN ymhlith ein gwrandawyr, gwirfoddolais i geisio adfer y papur a chefais dri mis i geisio gwneud hynny. Daeth dwsin o’n cyn-wirfoddolwyr i gynnig eu gwasanaeth a chynigwyd cartref i ni gan HAHAV, elusen hospis lleol, yn ei phencadlys yn Aberystwyth. Cynigodd Eglwys Llanbadarn ddefnydd o’i neuadd, argraffodd y papur lleol, ‘Cambrian News’ a chyhoeddiadau eraill erthyglau a chyhoeddodd ARL Aberystwyth apêl am wirfoddolwyr yn ei chylchlythyr.
Yn dilyn yr holl gyhoeddusrwydd, tyfodd nifer y gwirfoddolwyr yn 28 yn fuan, roedd y brwdfrydedd yn galonogol a dechreuwyd ar y gwaith o drefnu ail-lawnsiad. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd gan weithio at ddyddiad cyhoeddi yn hwyr ym mis Medi. Treialwyd lawnsiad prawf yn llwyddiannus ar yr 20fed a chafwyd lawnsiad swyddogol ar y 27ain. Daeth BBC Cymru i adrodd ar yr ail-lawnsiad a chafwyd hwb calonogol gydag eitemau ar BBC Wales Today, S4C, Radio Wales a Radio Cymru.
Mae rhifau gwirfoddolwyr yn tyfu, mae cynigion am swyddi Cadair, Ysgrifennydd a Thrysorydd wedi cyrraedd o blith y nifer, mae’n cartref newydd yn gweithio ac mae’r dyfodol yn argoeli’n dda. Mae dal angen am wirfoddolwyr, yn enwedig siaradwyr Cymraeg. Mae sefyllfa’r ariannu’n dda ond mae dal angen pobl arnom.
Mae ewyllys da a brwdfrydedd ein tîm o wirfoddolwyr yn eithaf anogaeth ac rwy’n ffyddiog, erbyn y darllenwch yr erthygl hon, byddwn wedi llwyddo i ail-sefydlu hen ffrind gwerthfawr o fewn y gymdeithas yma yng Ngheredigion.
Daw’r erthyglau Cymraeg a Saesneg o amryw gyhoeddiadau a gobeithiwn allu cynnwys rhai o Pobl Dewi yn y dyfodol.
Os hoffech chi, neu rywun rydych yn ei adnabod dderbyn copi wythnosol o PSCTN neu wirfoddoli ar drefn ‘rota,’ cysylltwch â mi: e-bost Talkignewspaper@walkers.tv neu ar ffôn boced 07773 719 723.