Cursillo

Mudiad o fewn yr Eglwys yw Cursillo, sy'n cael ei arwain gan leygwyr a rhai ordeiniedig er mwyn cynnig ffordd i Gristnogion dyfu trwy weddi, astudiaeth a gweithred, ac i rannu cariad Duw gyda phawb.
Mae Cursillo yn weithredol yn Esgobaeth Tyddewi. Mae aelodau yn cyfarfod yn rheolaidd i weddïo, addoli, gwrando a rhannu pryd o fwyd, a rhwng y cyfarfodydd hyn mae grwpiau lleol llai yn cyfarfod i rannu ac annog.
Os hoffech ddod i gwrdd â ni, mae croeso i chi gysylltu gyda'r Parch Marina Evans am fwy o wybodaeth: 01646 683891, rev.marina.evans@hotmail.com neu Caroline Llewellyn cursillostdavidslaydirector@btinternet.com