Byrddau a Phwyllgorau
Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth
Mae Bwrdd Cyllid Esgobaeth Tyddewi yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig trwy warant. Ei brif bwrpas yw i hybu a chynorthwyo gweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Tyddewi. Pwyllgor Gwaith y Bwrdd Cyllid sy'n gyfrifol am reoli cyllid ac eiddo'r Esgobaeth.
- Cadeirydd – Hazel Evans
Cysylltwch trwy Swyddfa'r Esgobaeth - Ysgrifennydd – Howard Llewellyn
howardllewellyn@churchinwales.org.uk
01267 236145
Pwyllgor Sefydlog
Dyma'r Pwyllgor sydd yn gyfrifol am weithredu'r hyn sy'n cael ei benderfynu gan Gynhadledd yr Esgobaeth, mae hefyd yn trefnu'r gynhadledd ac yn monitro gweithgareddau pwyllgorau'r esgobaeth.
- Cadeirydd – Yr Esgob
- Ysgrifennydd – Yr Ysgrifennydd Clerigol
Ebost: archdeacon.stdavids@churchinwales.org.uk
Bwrdd Enwebiadau'r Esgobaeth
Mae'r Bwrdd hwn yn gyfrifol am fonitro'r nifer o swyddi gwag a'u trafod yn ôl y galw, gan gynghori'r Esgob ar y broses enwebu pan fo hynny'n briodol, a dod i gytuneb ar ei reolau mewnol.
- Cadeirydd – Yr Esgob
- Ysgrifennydd – Yr Ysgrifennydd Clerigol
Ebost: archdeacon.stdavids@churchinwales.org.uk
Bwrdd Persondai yr Esgobaeth
Dyma'r Bwrdd sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r holl bersondai, a'r gwaith o'u hadnewyddu, a phrynu neu werthu tai yn ôl y galw.
- Cadeirydd – Mr Nigel Roberts
Cysylltwch trwy Swyddfa'r Esgobaeth - Ysgrifennydd – Howard Llewellyn
howardllewellyn@churchinwales.org.uk
01267 236145 - Arolygydd – Stanley Jones
stanleyjones@churchinwales.org.uk
01267 236145 - Canllawiau Bwrdd Persondai yr Esgobaeth ar gyfer clerigwyr a phlwyfi (Word)
- Rhestr Contractwyr i'w defnyddio mewn argyfwng (PDF)
Pwyllgor Bugeiliol ac Eglwysi
Mae'r pwyllgor hwn yn gyfrifol am y canlynol:
- Adolygu anghenion bugeiliol adeiladau eglwysig yr Esgobaeth a rhoi cyngor i'r Esgob a Chynhadledd yr Esgobaeth yn ôl y galw
- Gweinyddu'r cynllun arolygu eglwysi bob pum mlynedd
- Gweinyddu'r broses ar gyfer eglwysi di-angen
- Darparu cyngor ar grantiau a benthyciadau sy'n gysylltiedig ag adeiladau eglwysig, yn cynnwys grantiau HLF. Ceir mwy o wybodaeth ar y dudalen Grantiau
- Cadeirydd – Yr Hybarch Paul Mackness, Archddiacon Tyddewi
archdeacon.stdavids@churchinwales.org.uk - Ysgrifennydd – Janet Every
janetevery@churchinwales.org.uk
01267 236145
Pwyllgor Cynghori'r Esgobaeth
Mae gan y pwyllgor hwn aelodau sy'n arbenigo mewn meysydd penodol sy'n ymwneud ag adeiladau eglwysig, fel pensaernïaeth, organau, archaeoleg a.y.b, ac maent yn gyfrifol am:
- Roi cyngor i Ganghellor yr Esgobaeth ar faterion sy'n ymwneud â cheisiadau am drwyddedau a'r hawl i wneud gwaith ar eglwysi a mynwentydd.
- Cadeirydd – Andrew Faulkner
Cysylltwch trwy Swyddfa'r Esgobaeth
Ysgrifennydd – Janet Every
janetevery@churchinwales.org.uk
01267 236145
Cymdeithas Dai yr Esgobaeth
Nod y Gymdeithas yw cynorthwyo clerigwyr sydd wedi ymddeol a gweddwon clerigwyr i ddod o hyd i dai wedi iddynt ymddeol
- Cadeirydd – Yr Hybarch Dorrien Davies
Email: archdeacon.carmarthen@churchinwales.org.uk - Ysgrifennydd – Nia M Evans BA ACCA
niaevans@churchinwales.org.uk
01267 236145