Mae Esgobaeth Tyddewi yn cynnig nifer o grantiau gwahanol i gefnogi eglwysi, Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol a phrosiectau ledled yr esgobaeth.
Os ydych yn ceisio cyllid ar gyfer gwaith atgyweirio, adfer, gwella, gwella hygyrchedd, ail-drefnu neu unrhyw waith arall ar adeilad eglwys, dylech wneud cais am Grant Atgyweirio Eglwysi. Peidiwch â defnyddio’r ffurflen gais am Grant Cyffredinol ar gyfer gwaith adeiladu.
Mae’r Grant Atgyweirio Eglwysi, sy’n gallu darparu hyd at £7,500 o gyllid, wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer gwaith cymwys ar adeiladau eglwysig. Mae’r manylion llawn, y meini prawf a’r ffurflen gais i’w gweld o dan 2) Grantiau Atgyweirio Eglwysi isod.
Mae’r Grant Cyffredinol wedi’i fwriadu ar gyfer prosiectau sy’n annog cenhadaeth, twf ysbrydol ac allgymorth i gymunedau lleol. Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adeiladu, adfer neu wella.
Fel arfer, cyfrifoldeb yr Ardal Weinidogaeth Leol yw cynnal a chadw adeilad eglwys yn rheolaidd. Fodd bynnag, bydd achlysuron pan fydd angen cyngor neu gymorth ariannol o’r tu allan.
Mae GrantFinder yn darparu mynediad at fwy nag 8,000 o ffynonellau cyllid ar gyfer ystod eang o brosiectau a allai helpu i gynnal, adnewyddu, ail-drefnu neu ymestyn adeiladau eglwysig, yn ogystal â chefnogi gwaith grwpiau eglwysig. Mae gan yr esgobaeth fynediad at GrantFinder drwy gynllun taleithiol, sy’n darparu ystod ehangach o gyfleoedd cyllido posibl na llawer o beiriannau chwilio safonol.
Cyn ystyried unrhyw waith ar eich eglwys neu fynwent yr eglwys, dylech ymgynghori â’ch Archddiacon, a all eich cynghori ynghylch y ffynhonnell fwyaf priodol o gymorth neu gyllid.
Cofiwch y gall fod angen faculty ar gyfer cynigion i atgyweirio, newid neu addasu eglwysi neu fynwentydd eglwysig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar brif dudalen y Pwyllgor Ymgynghorol Esgobaethol.
Mae pedwar grant esgobaethol gwahanol ar gael. Darllenwch y disgrifiadau’n ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi’r ffurflen gais ar gyfer y grant sydd fwyaf addas i’ch prosiect.
Grant Cyffredinol
Mae grantiau hyd at £3000 ar gael i Ardaloedd Gweinidogaeth Leol, eglwysi ac unigolion i gefnogi prosiectau sy'n annog cenhadaeth a hyrwyddo twf mewn niferoedd, twf mewn ysbrydolrwydd ac allgymorth i gymunedau lleol. Nid yw'r grantiau hyn ar gyfer gwaith adeiladu, adfer neu wella.
Rhaid i geisiadau gael cefnogaeth yr Archddiacon a Chyngor yr Ardal Gweinidogaeth Leol. Rhaid hawlio pob grant o fewn 12 mis i ddyddiad dechrau'r prosiect.
Mae ceisiadau yn cael eu hystyried trwy gydol y flwyddyn bob chwarter. Rhaid cyflwyno ceisiadau o leiaf 14 diwrnod gwaith cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor Grantiau.
Meini prawf dyfarnu grantiau Grant Cyffredinol
Grant ar gyfer Atgyweirio
- Atgyweirio adeiladwaith yr eglwys ac eithrio gwydr lliw neu addurnwaith oni bai bod gwaith o'r fath yn cynrychioli llai na 10% o brosiect atgyweirio mawr.
- Gwaith i wella diogelwch a hygyrchedd
- Estyniadau neu aildrefnu mawr
- Eglwysi newydd
DS> Bydd yr uchafswm yn cael ei ddyfarnu dim ond lle y gellir dangos y bydd y gwaith yn helpu'r eglwys i gyrraedd targed sero net.
Lawrlwytho: Ffurflen gais grantiau atgyweirio eglwysi [pdf]
Cronfa Menter Ardal Gweinidogaeth Leol
Mae Ardaloedd Gweinidogaeth Leol yn gymwys i gael grant untro o £800 tuag at amrywiol brosiectau datblygu. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cyrsiau - adeiladu tîm
- Diwrnodau - cwrdd i ffwrdd ac encilion
- Hyfforddiant - i arweinwyr
- Costau - sefydlu gwefan
- Ffurflen Gais (Word)
- Ffurflen Gais [PDF]
Grant Adnoddau Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Mae'r grant yn agored i bob Ardal Gweinidogaeth Leol, prosiectau Plant Dewi ac Ysgolion yr Eglwys.
2 Faint yw'r grant?
Mae’r grantiau wedi'u cyfyngu i uchafswm o £1000.
3 Pa fath o Fentrau/Prosiectau y gellir eu hariannu â'r grant hwn?
Beth ellir ei ariannu:
- Mentrau newydd fel Llan Llanast, Caffis Mawl, Cylchoedd Plant Bach, Grwpiau Ieuenctid
- Prosiectau Plant, Ieuenctid a Theuluoedd presennol sydd angen cyllid parhaus
- Mentrau/Prosiectau sy'n annog Eciwmeniaeth
- Hyfforddiant i'r rhai sy'n arwain/hwyluso e.e. Chwarae Duwiol, Agor y Gair
- Hyfforddi a pharatoi arweinwyr ifanc newydd
- Gellir ystyried unrhyw brosiect arall sy'n dod o fewn y rhestr uchod, ond nid yn uniongyrchol, ond nid yw'r rhestr hon yn cynnwys pob un dim.
Beth na ellir ei ariannu:
- Cyflogi Staff
- Adeiladwaith adeilad e.e. creu cornel i blant mewn eglwys neu waith adeiladu
4 Pa feini prawf fydd yn cael eu hasesu wrth wneud grant?
- Diwallu angen lleol – ceisio peidio â dyblygu gwaith presennol
- Gweledigaeth glir ar gyfer y prosiect/fenter
- Prosiectau sy'n caniatáu i Blant a Phobl Ifanc ddefnyddio eu lleisiau a chyfrannu at y gymuned neu'r eglwys ehangach
- Prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth i Blant, Pobl Ifanc neu Deuluoedd
- Cynaliadwyedd yn y dyfodol
- Ymarfer Diogelu Priodol ar waith
- Gofynion statudol eraill yn dibynnu ar natur y gwaith: e.e. Hylendid Bwyd
5 Oes angen i mi siarad ag unrhyw un cyn gwneud cais?
Oes, mae angen i chi siarad â’r Cenhadwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd er mwyn sicrhau bod y gwaith rydych chi'n ei gynnig yn unol â'r Meini Prawf Esgobaethol. Peidiwch ag anfon unrhyw ffurflenni cais at y Cenhadwr PITh i'w gwirio gan nad ei chyfrifoldeb hi fydd hynny. Mae'n synhwyrol siarad â'ch Cyngor Ardal Gweinidogaeth Leol neu'ch Ymddiriedolwr/Corff Llywodraethol gan y bydd angen llofnod y Cadeirydd.
