Sut mae trafod Ffoaduriaid fel Bodau Dynol
Mae’n fore Sadwrn yng Nghadeirlan Anglicanaidd yr Holl Saint yng nghanol Cairo a pharatoadau dan law ar gyfer ffair waith y dydd. Ond mae’n ffair waith wahanol. Ffoaduriaid yw’r cleientau bob un. John Holdsworth sy’n adrodd.
Caiff yr achlysur ei threfnu gan ‘Lloches Aifft’ (Refuge Egypt), sef adain yr Eglwys Anglicanaidd sy’n delio â ffoaduriaid mewn cydweithrediad â phartneriaid eraill. Fe’i gelwir yn “Livelihoods Project” a heddiw, gobeithiant ddarparu modd i fyw - a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny - ar gyfer tua 100 o bobl.
Cam cyntaf y broses yw adnabyddiaeth. Caiff pob cleient gyfweliad o ryw awr er mwyn canfod eu stori, eu galluoedd a sgiliau, cymwysterau gwaith a’r hyn y gobeithient gael fel gwaith. Gallai hyn gynnwys dysgu rhyw sgil craidd neu gymorth iaith.
Nid yw’r cyfweliad yn canolbwyntio ar gyflogaeth yn unig. Mae gan ‘Lloches Aifft’ dri chlinig meddygol a gwasanaeth cymorth ynghyd â phecynnau bwyd a dillad ble mae angen. Gellid clustnodi rheolwyr gofal er mwyn cynnig cymorth a mentora hir dymor. Y bwriad yw integreiddio pobl i gymdeithas Eifftaidd cynted a hwylused â phosib. Does dim gwersylloedd ffoaduriaid yn yr Aifft. Wedi croesi’r ffin, mae gofyn i ffoaduriaid ganfod eu ffordd eu hunain.
Daw digwyddiad heddiw â ffoaduriaid i gysylltiad gyda deng cwmni. Fel y ceir mewn sawl gwlad, mae cyfyngderau ar ble gall ffoaduriaid weithio ar y dechrau. Bydd arlwywyr, darparwyr lletygarwch, pobyddion a chwmniau glanhau ymysg cwmniau heddiw ynghyd â’r llywodraeth. Gall pobl ganfod gwaith hefyd fel gyrwyr a gyda gwasanaethau gofal plant neu’r henoed.
Cyrhaeddodd Raid o Khartoum. Roedd ei dad yn farw. Galluogodd y swydd lanhau a gafodd iddo ddod â’i fam i’r Aifft, i rentu fflat a chynnig darpariaeth i’w deulu. Mae hyn i gyd yn bosib yn yr Aifft am £140 y mis.
Daeth Regina hefyd o Sudan wedi i’w gŵr gael ei ladd yn yr ymladd yno. Mae ganddi chwech o blant. Mae Mama Mandera, sy’n arwain adran gyflogi gwasanaethau cartref o fewn ‘Lloches Aifft’, wedi bod mewn cysylltiad â Regina yn ddiweddar ac yn adrodd ei bod wedi ymgartrefu mewn swydd gwsanaeth cartref.
Arddangosodd Waffa, cyn fyfyriwr coleg Sudanaidd, dalent am waith crefft ac mae wedi diogelu swydd gynaladwy gyda chwmni crefft coed sy’n gwerthu rhywfaint o’i waith yn siop y gadeirlan. Mae’r prosiect yn cynnal cysylltiad tra bod ei angen. Mae eglwysi Anglicanaidd y ddinas yn cynnal gwasanaethau arbennig ar gyfer pobl o Sudan ac mae rheiny o fudd a chefnogaeth mawr, yn cynnig cysur a chynhaliaeth ysbrydol a chyfleoedd i gymdeithasu a rhannu gydag eraill yn yr un sefyllfa.