Swyddi
Swyddi gwag
![Diocesan Logo [full]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Diocesan_Logo_Licenced_master.width-800.jpg)
Arolygydd Eglwysi Esgobaethol
Cyflog: £38,517.41 - £43,578.81 (Graddfa Gyflog Esgobaethol F)
Oriau/Term: Llawn amser (34 awr yr wythnos), Parhaol
Lleoliad: Swyddfa’r Esgobaeth, Abergwili, Caerfyrddin (ond mae angen teithio’n helaeth ledled yr Esgobaeth ac weithiau y tu hwnt i hynny, telir treuliau am hyn)


Mae’r Esgobaeth Tyddewi yn cynnig cyfle cyffrous i weithiwr proffesiynol gyda chymwysterau priodol i ymuno â’n tîm fel Arolygydd Eglwysi Esgobaethol. Mae’r portffolio adeiladau eglwysig yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd prydferth Sir Gâr, Sir Benfro a Sir Ceredigion yng Ngorllewin Cymru.
Bydd y deiliad swydd yn asesu cyflwr yr holl adeiladau eglwysig ledled yr Esgobaeth, bob pum mlynedd, ac yn cynghori’r Ardaloedd Weinidogaeth Leol a’r Esgobaeth ar flaenoriaethu anghenion cynnal a chadw, trwsio a gwelliannau. Yn ddelfrydol, byddwch yn Syrfëwr Adeiladu Siartredig neu Bensaer neu berson cyfatebol gymwys, sydd ag o leiaf bum mlynedd o brofiad ymarferol yn y diwydiant adeiladu. Mae gwybodaeth drylwyr o adeiladau hanesyddol a rhestredig, ynghyd â chadwraeth adeiladau yn hanfodol, ac, o ddewis, byddwch yn meddu ar gymhwyster cydnabyddedig ym maes cadwraeth adeiladau. Bydd gennych wybodaeth gyfredol o ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, rheoliadau ACRh a gofynion statudol perthnasol eraill.
Rydym yn gofyn am unigolyn gyda doniau cyfathrebu ardderchog, yn ysgrifenedig ac ar lafar, byddwch yn meddu ar sgiliau cryf wrth ymdrin â phobl, gyda’r gallu i gysylltu ag amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau, er mwyn cyflawni canlyniadau effeithiol ac effeithlon yn ymwneud a materion eglwysi Esgobaethol. Byddwch hefyd yn meddu ar y gallu/profiad i fentora datblygiad proffesiynol parhaus y Swyddog Eiddo/Syrfëwr Esgobaethol.
Bydd gofyn i chi dalu sylw manwl i fanylder, yn ogystal â bod yn hyblyg ac yn rhagweithiol wrth ymdrin â’ch gwaith. Byddwch yn cynhyrchu adroddiadau cynhwysfawr, clir a dealladwy er mwyn cynorthwyo Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol i benderfynu blaenoriaethau, o ran cenhadu a gwariant. Byddwch yn gweithio law yn llaw â’r Pwyllgor Eglwysi a Bugeiliol i ddatblygu trefniadau addas a chydlynol er mwyn cynnal a chadw a thrwsio adeiladau, hynny er cefnogi Ardaloedd Gweinidogaeth Lleol. Ar adegau bydd disgwyl i chi oruchwylio prosiectau adeiladau penodedig, yn ôl a gytunir gan y Pwyllgor Eiddo Esgobaethol. Mae dealltwriaeth ariannol drylwyr yn hanfodol.
Yn unigolyn brwdfrydig ac ymroddgar, byddwch ac yn cynhyrchu Cynllun Eiddo Strategol yr Ardal Weinidogaeth Leol i nodi anghenion y dyfodol ac/neu gyfleoedd newydd ar gyfer adeiladau eglwysig. Byddwch yn medru ymdrin â materion megis nodi unrhyw eglwysi, os o gwbl, y dylid eu cau, mewn ffordd sensitif.
Gan fydd y swydd yn mynnu teithio helaeth, mae trwydded yrru llawn a chyfredol yn angenrheidiol.
Mae dealltwriaeth o ethos yr Eglwys yng Nghymru yn ddymunol, y ogystal â’r gallu i siarad Cymraeg.
E-bostiwch diocese.stdavids@churchinwales.org.uk ar gyfer swydd ddisgrifiad llawn a ffurflen gais.
SWYDD DDISGRIFIAD [PDF]
FFURFLEN GAIS [MS Word]
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau CV yn unig. Mae’n rhaid llenwi’r ffurflen gais.
Dyddiad cau 16 Ebrill 2021.
Bydd cyfweliadau ar gyfer y swydd yn digwydd ar 5 Mai 2021.