Mihangel a’r Holl Angylion
29 Medi
Arglwydd Dduw tragwyddol,
tynnaist ni ynghyd â’r angylion
mewn trefn ryfeddol i’th wasanaethu:
caniatâ, megis y mae dy angylion sanctaidd
yn sefyll yn wastad ger dy fron yn y nefoedd,
y bydd iddynt, ar dy orchymyn,
ein cynorthwyo a’n hamddiff yn ni ar y ddaear;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sydd yn fyw ac yn teyrnasu gyda thi
yn undod yr Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.
Colect yr wythnos
YR AIL SUL AR BYMTHEG wedi'r DRINDOD
Colect 115
Hollalluog Dduw,
gwnaethost ni ar dy gyfer di dy hun,
ac y mae’n calonnau’n anniddig
nes cael gorffwys ynot ti:
dysg inni gynnig ein hunain i’th wasanaeth,
fel y cawn yma dy dangnefedd,
ac yn y byd a ddaw
dy weld wyneb yn wyneb;
trwy Iesu Grist ein Harglwydd,
sy’n fyw ac yn teyrnasu gyda thi
a’r Ysbryd Glân,
yn un Duw, yn awr ac am byth.