Gofal am y Greadigaeth
Fel Cristnogion rydym yn ystyried y weithred o ofalu am yr amgylchedd naturiol, creadigaeth Duw, yn ddyletswydd sylfaenol., a gan ein bod yn byw dan fygythiad cynhesu byd-eang a rhywogaethau'n cael eu colli, mae'n rhaid ymgymeryd â'r dyletswydd hwn ar frys.

Fel esgobaeth rydym yn anelu at fyw yn gynaladwy drwy weithredoedd ymarferol ar bob lefel, o drefniadau esgobaethol a'r ymrwymiad i fod yn Esgobaeth Eco, i gynulleidfaoedd lleol yn dod yn Eglwysi Eco.
Am fwy o wybodaeth ac adnoddau dilynwch y lincs isod. Gallwch gysylltu â'r Swyddog Gofal am y Greadigaeth, a Chynaladwyedd, y Parch Marcus Zipperlen drwy ebostio marcuszipperlen@cinw.org.uk