“Dewch ar y daith hon gyda'n gilydd”
Y mae gan Esgobaeth Tyddewi Esgob newydd.
Etholwyd Dorrien Davies, cyn Archddiacon Caerfyrddin, ym mis Hydref mewn cyfarfod deuddydd o’r Coleg Etholiadol, yn eistedd tu ôl i ddrysau caëdig yn eglwys gadeiriol Tyddewi.
Cadarnhawyd ei etholiad mewn synod cysegredig ar Dachwedd 27ain. Bydd yn cael ei gysegru yn Eglwys Gadeiriol Bangor yn Ionawr a’i orseddu nôl yn Nhyddewi ar Chwefror 3ydd.
Wedi ei eni yn Abergwili ac yn siaradwr Cymraeg, hyfforddwyd Dorrien i’r weinidogaeth yng Ngholeg Sant Mihangel, Llandâf, a’i ordeinio’n offeiriad yn 1989. Bu ei guradaeth yn Llanelli cyn cael ei apwyntio’n Ficer Llanfihangel Ystrad Aeron yng Ngheredigion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, astudiodd Dorrien am radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Llambed, gan raddio yn 1995. Fe’i apwyntiwyd yn Ficer Llandudoch, Sir Benfro yn 1999 a bu yno am 11 mlynedd. Yn 2007 fe’i gwnaethpwyd yn Ganon Eglwys Gadeiriol Tyddewi ac yn 2010 symudodd i Dyddewi fel Canon Preswyl. Yn 2017 apwyntiwyd Dorrien yn Archddiacon Caerfyrddin.
Dywedodd Dorrien ei fod yn teimlo’ anrhydedd a dyletswydd’ am ei ddyrchafiad. Ond, dywedodd, ‘nid yw hyn amdanaf fi, nid yw am y swydd na’r awdurdod sy’n dod gydag e, mae am wasanaeth’.
Fe wêl rôl Esgob fel un o dystiolaeth i’r Efengyl ac yn ffocws ar undod. ‘Y mae ‘r esgobaeth yn un amrywiol gydag amryw o farnau, traddodiadau a disgwyliadau. Rôl yr Esgob yw uno’r esgobaeth i weithio tuag at y daioni cyffredin.
‘Rhaid i’n pwrpas cyffredin fel esgobaeth fod yn un o gyd-weithio colegol. Yr wyf am gael trafodaethau gyda phobl. Yr wyf yn bwriadu pwyllo i ddechrau ond fe fydd newidiadau ac nid ydynt yn mynd i fod yn rhai rhwydd. Yr wyf ond am i ni wneud y daith hon gyda’n gilydd.
Yr wyf yn ymwybodol bod lleihad mawr wedi bod yn nifer y rhai sy’n mynychu’r eglwys ac mae’n rhai i ni holi ein hunain am y rheswm. Y mae cymdeithas wedi newid. Ni ddylai’r Eglwys o angenrheidrwydd newid ei hunan i addasu at safonau a osodir gan Cymdeithas , ond y mae’n rhaid i ni fod yn berthnasol iddi, yn empathetig i’r hyn sy’n digwydd.
Nid ydym yn mynd i gytuno drwy’r amser ond ble mae ein cryfder, rhaid i ni ystwytho a helpu pobl sy’n chwilio o fewn eu bywydau a’u perthynas bersonol â Christ, yn sicrhau nad yw neb yn teimlo’n alltud, yn wrthodedig neu ddi-gariad.
Yr wyf yn Esgob i’r Esgobaeth ac y mae hynny’n golygu pawb, hyd yn oed y rhai nad ydynt yn credu. Yr hyn yr wyf am i bobl i fod yn sicr ohono yw fy ngweddïau, fy ffyddlondeb a’m cariad drostynt. Yr wyf yn caru’r esgobaeth hon a’i phobl ac yn cyflwyno fy hunan i’r Iesu i gyflawni’r gwasanaeth hwn.”