Gweinidogaeth
Mae'r Tîm Gweinidogaethol yn cydlynu a datblygu'r holl weinidogaethau ordeiniedig, trwyddedig a lleyg o fewn yr Esgobaeth.
Galwedigaeth
Ydy Duw yn galw arnoch i fod yn rhan o weinidogaeth benodol?
Y cam cyntaf: trefnwch gyfarfod gydag un o'r Ymgynghorwyr Galwedigaethau.
- Cydlynydd: Y Parch Mark Ansell
revmarkansell@btinternet.com - Mwy o wybodaeth
Datblygu AGLl
Wrth i'r Esgobaeth newid o Blwyfi i Ardaloedd Gwenidogaethol Lleol, mae'r Tîm Datblygu Ardal Weinidogaethol wedi cynorthwyo i hwyluso'r newid o'r hen i'r newydd.
Cymrodoriaeth Galwedigaeth
Sefydlwyd y Gymrodoriaeth fel man cyfarfod i'r rheiny sy'n teimlo eu bod wedi derbyn galwad Duw ond sy'n ansicr am y cam nesaf.
Arwain Addoliad
Gweinidogion lleyg sy'n cynorthwyo gyda gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd yw Arweinwyr Addoliad - ond nid ydynt wedi'u trwyddedu i bregethu. Felly mae Tîm y Weinidogaeth yn cyhoeddi Homili wythnosol, sy'n seiliedig ar ddarlleniadau Beiblaidd bob Sul. Mae'r rhain wedi'u hysgrifennu gan unigolion trwyddedig, ac mae rhwydd hynt iddynt gael eu defnyddio yn lle pregeth, neu fel cymorth i gynulleidfa gysylltu gyda'r Ysgrythur.
Cyfleoedd ar gyfer Gweinidogaeth Gristnogol yn yr Esgobaeth
Diwinyddiaeth ar gyfer bywyd
Rhaglen o astudiaeth ddiwinyddol gan Sefydliad Sant Padarn i'r Eglwys yng Nghymru, wedi'i ddilysu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yw Diwinyddiaeth ar gyfer bywyd. Mae'r cwrs yn cynorthwyo pobl i gyfoethogi eu dealltwriaeth diwinyddol ac i ddefnyddio eu canfyddiadau o astudiaethau academiadd er budd yr Eglwys. Yn ogystal, mae'r cwrs yn cael ei gyfri fel rhan o'r hyfforddiant wrth baratoi i fod yn weinidogion Trwyddedig ac Ordeiniedig. Bydd angen i'r rheiny sy'n hyfforddi ar gyfer gweinidogaethau fynd trwy broses ddewis yr Eglwys yng Nghymru a chyflawni anghenion hyfforddi eraill hefyd. Mae'r cwrs wedi ysbrydoli rhai myfyrwyr i archwilio eu galwedigaeth bersonol i weinidogaeth.