Rydyn ni'n gwybod eich bod yn caru'r Eglwys Gadeiriol

Wnewch chi fod yn rhan o'r 1% sy'n diogelu ei dyfodol, gofynna Canon Sheridan James.
Mae pandemig COVID-19, argyfwng costau byw a diffyg diogelwch byd-eang wedi creu hinsawdd economaidd galed i bawb. Mae'n anodd i'r Eglwys Gadeiriol hefyd.
Nid ydym yn derbyn unrhyw gymorth gan y llywodraeth ac nid oes gennym filiynau wedi'u cadw yn y banc.
Y realiti yw ein bod yn goroesi'n bennaf diolch i haelioni’r ymwelwyr. Mae pob punt yn cyfrif ac rydym yn hynod ddiolchgar am bopeth a roddwch. Ond ar ôl y pandemig, mae nifer blynyddol yr ymwelwyr wedi lleihau gan dair rhan (tua 100,000).
Rydym yn gweithredu gyda diffyg ac yn bwyta mewn i'n cronfeydd wrth gefn.
Er mwyn diogelu dyfodol yr Eglwys Gadeiriol fel cyrchfan pererindod nodedig ac fel lle o addoli ysbrydoledig a phensaernïaeth syfrdanol, mae angen inni gynyddu'r swm a gawn gan ein hymwelwyr gan £100,000.
Mae hyn yn swnio fel swm amhosibl. Ond nid oes rhaid iddo fod. Roedd Dewi Sant yn enwog am ddweud, ‘Gwnewch y pethau bychain’ a gallwch chwarae eich rhan drwy wneud un peth bach.
Rydym yn chwilio am 1% o’r 200,000 o bobl sy’n ymweld bob blwyddyn i helpu’r Eglwys Gadeiriol i sicrhau sail ariannol gadarnach.
Pe bai 1% o’n hymwelwyr yn rhoi dim ond £10 y mis i’r Eglwys Gadeiriol, byddem yn cau’r bwlch ariannol hwn.
Ac os byddai 1000 o bobl yn rhoi £10 y mis byddem yn codi £120,000.
Rydym wedi cadw’r fathemateg yn syml. Gallwch roi mwy. Gallwch roi llai. Ond os ydych yn caru’r Eglwys Gadeiriol hon, a allech fod yn un o’r 1% sy’n ymroddi i wneud gwahaniaeth mawr. I ddarganfod mwy cysylltwch â info@stdavidscathedral.org.uk, neu ewch i Support us | St Davids Cathedral.