Y Newid Mawr er lles y Cread
Mae'r 'Newid Mawr er lles y Cread’ (‘Great Switch for Creation') yn syniad syml gyda brys go iawn. Mae'n ymwneud â symud yn ymwybodol i ffwrdd o ffyrdd o fyw sy'n niweidio'r ddaear a thuag at ddewisiadau sy'n gynaliadwy, yn fforddiadwy, ac wedi'u gwreiddio mewn gofal am yr hyn y mae Duw wedi'i wneud. Yma yng Nghymru, mae'r neges honno'n sicr yn taro tant. Rydyn ni’n byw ymhlith bryniau, afonydd, ffermydd ac arfordiroedd sy'n siapio ein bywydau bob dydd a'n hymdeimlad o berthyn.
Ar draws yr Eglwys yng Nghymru, ac ochr yn ochr â gwaith ehangach Llywodraeth Cymru a chynlluniau fel yr Eglwys Eco, mae ymwybyddiaeth gynyddol nad yw hyn yn ymwneud â'r amgylchedd mewn modd haniaethol yn unig. Mae'n ymwneud â chost gynyddol ynni, y pwysau ar fywoliaethau gwledig, a'r angen i ddefnyddio ein hadnoddau yn ddoeth.
Un o'r agweddau mwyaf calonogol ar y Newid Mawr yw ei fod yn aml yn arbed arian yn ogystal â lleihau'r effaith. Mae llawer o eglwysi eisoes yn gweld hyn. Gall newid i oleuadau LED leihau biliau trydan yn sylweddol. Gall adolygu systemau gwresogi, hyd yn oed drwy wneud addasiadau bach i amseriad y gwres a sefydlu parthau, leihau costau mewn adeiladau sy'n ddrud i'w rhedeg. Gall dewis tariff ynni adnewyddadwy weithiau fod yn niwtral o ran cost neu hyd yn oed yn rhatach dros amser.
Mae mynwentydd yn cynnig cyfle arall. Mae caniatáu i rannau o'r glaswellt dyfu'n hirach yn lleihau costau torri gwair ac yn cefnogi bywyd gwyllt ar yr un pryd. Does dim angen cyllidebau mawr ar gamau syml fel plannu blodau gwyllt neu greu cynefinoedd bach ond gallant wneud gwahaniaeth amlwg.
Ar lefel gymunedol, mae'r un egwyddor yn berthnasol. Mae rhannu lifftiau i wasanaethau yn lleihau costau tanwydd. Mae cynnal caffis atgyweirio yn helpu pobl i arbed arian trwy drwsio yn hytrach na gorfod prynu eitemau newydd. Mae defnyddio deunyddiau y gellir eu hailddefnyddio mewn digwyddiadau yn lleihau costau parhaus. Dydyn nhw ddim yn gamau mawreddog. Yn hytrach, maen nhw’n gamau pwyllog, ymarferol sy'n gwneud synnwyr yn ariannol yn ogystal ag yn amgylcheddol.
Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod ni'n bwrw iddi, a'n bod ni'n gwneud hynny gyda'n gilydd. Dydy’r Newid Mawr ddim yn golygu perffeithrwydd. Mae'n golygu gwneud dewisiadau gwell lle gallwn ni, a darganfod bod y dewisiadau hynny yn aml yn dod â rhyddhad ariannol ac ymdeimlad newydd o bwrpas.
I ddysgu mwy am y Newid Mawr, cysylltwch â Chynrychiolydd Esgobaeth Tyddewi i Hwb Newid Hinsawdd yr Eglwys yng Nghymru: y Parch Neil Hook - neilhook@cinw.org.uk