O Thomas yr Amheuwr i fod yn Ymgeisydd am y Weinidogaeth

Yn y tymor ordeinio hwn, Toby Hickey sy’n disgrifio ei alwad.
Wrth dyfu i fyny ro’n i’n dioddef o orbryder, ac yn gorfeddwl pob dim. Ro’n i'n anghrediniwr, felly ro’n i'n dibynnu ar fy noethineb a'm nerth fy hun i ymdopi bob dydd. Cefais fy magu rhwng Portsmouth a Dwyrain Swydd Efrog ac roeddwn i wrth fy modd yn yr awyr agored ac yn caru pêl-droed a siocled! Yn 18 oed, penderfynais gofrestru ym Mhrifysgol Aberystwyth, dim ond oherwydd bod yna fachlud braf yno.
Yn fy ail flwyddyn, gwahoddodd ffrind fi i'r eglwys. Ro’n i’n gyndyn i ddechrau ond penderfynais fynd. Erbyn diwedd y gwasanaeth, roeddwn i'n crio, wedi fy llethu gan lais a ddywedodd wrtha i, "Rwyt ti’n mynd i weithio i'r Eglwys." Dyma'r peth olaf yr oeddwn i ei eisiau, gan fy mod i'n meddwl bod yr eglwys yn ddiflas a dieithr. Ac eto, fe wnes i barhau i fynychu oherwydd ei fod yn rhoi cysur i mi nad oeddwn i erioed wedi'i deimlo o'r blaen. Ddeunaw mis yn ddiweddarach, wrth baratoi ar gyfer fy Ngradd Meistr Daearyddiaeth yn Aberystwyth, gweddïais un noson a chlywais lais yn dweud, "Toby, paid â bod ofn." Wrth agor fy llygaid, gwelais Iesu yn sefyll o'm blaen. Roedd ganddo'r wên fwyaf llydan, ac roedd yn gwisgo gwisg a oedd yn wynnach na’r eira. Dangosodd eiliadau o fy mywyd a’m henw yn y llyfr mwyaf posibl. Dyma oedd fy nghyfarfyddiad cyntaf o dri chyfarfyddiad ag ef, ac roeddwn i'n ysu i ddweud wrth bawb. Dechreuais ymwneud fwyfwy â'r eglwys, ond ro’n i’n dal i gael trafferth deall pam fod fy angen i yno.
Aeth sawl mis heibio wrth i mi ymgodymu â'r cwestiwn, "Pam fi?". Fe welais i gymaint o bobl yr ystyriwn oedd yn Gristnogion perffaith ac fe fyddwn innau’n ymlafnio i gyflawni’r hyn dybiwn i oedd yn berffeithrwydd. Fodd bynnag, newidiodd hynny i gyd un noson pan ddeffrodd Iesu fi i olchi fy nwylo a'm traed. Ar ôl y cyfarfyddiad anhygoel hwnnw, penderfynais dderbyn y digwyddiadau rhyfeddol hyn a'u defnyddio i ysbrydoli pobl.
Nawr, ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, rwy'n paratoi i hyfforddi fel Ymgeisydd am y Weinidogaeth gyda'r Eglwys yng Nghymru, wedi fy ysbrydoli gan freuddwyd o fendithio rhywun. Rwy'n cysegru fy mywyd i'r Un a dynnodd fi allan o'r bedd, a welodd rywbeth ynof fi. Rydw i am i'r Arglwydd fy nefnyddio fel disgybl fel y gwêl yn dda, er ei ogoniant, ac er lledaeniad ei deyrnas, nid yn unig yn Esgobaeth Tyddewi, nid yn unig ar draws Cymru, ond ym mhob man. Fel anghrediniwr, rhywun a oedd yn llawn amheuon, gallaf ddweud Ei fod yn wirioneddol fyw!