Englynion Bedd

Mae’n fraint i gael byw a gweithio mewn ardal mor brydferth. Dwi’n treulio f’amser hamdden yn crwydro cefn gwlad a’r arfordir, ymysg byd natur; does dim byd gwell i ysgogi’r synhwyrau! Yn ogystal â fforio, tynnu lluniau a gwylio adar, dwi hefyd yn hela englynion.
Mae rhai o f’atgofion cynnar yn cynnwys ymweld â mynwentydd gyda fy nhad-cu, a gosod blodau ar fedd ei dad a’i chwaer. Roedden nhw’n llefydd tawel, weithiau’n llwm ond byth yn morbid; yn hytrach roeddynt yn fannau llawn parch a chariad. Mae’r arfer yma, i mi, wedi parhau, ond mae blodau nawr yn cael eu gosod ar fedd fy nhad-cu a’m mam-gu hefyd.
Dros y ddwy flynedd diwethaf dwi wedi ymweld â nifer fawr o fynwentydd dros Gymru, wrth wirfoddoli i brosiect Englyn Bedd. Cofnodi englynion marwnadol sydd wedi’u naddu ar gerrig bedd yw ei bwrpas.
“Ledled Cymru y mae miloedd lawer ohonynt, a nifer helaeth heb eu cofnodi erioed...Mae llawer yn prysur ddirywio oherwydd traul amser swrth a’r hin ac mae gwir angen eu cofnodi a’u diogelu fel rhan greiddiol o ddiwylliant materol a chymdeithasol y genedl.”
Mae’r gwaith casglu’n amrywiol ac yn gallu cael ei effeithio gan ffactorau megis cyflwr y cerrig, y tywydd a’r golau dydd. Mae’r englynion sy’n cael eu hailadrodd yn niferus, ond mae rhai’n rhoi cipolwg personol o fywydau unigolion; maen nhw’n bwerus eu hystyr ac yn cynhyrfu’r gwaed. Mae cofnodi geiriau hudol y beirdd wnaeth meistroli’r gynghanedd yn anrhydedd.
Ond nid yw’r hobi’n un hawdd. Dwi wedi mynychu sawl mynwent â cherrig bedd sydd wedi cwympo neu’n gorwedd dan flancedi trwchus o iorwg. Mae rhai eraill yn anghyraeddadwy oherwydd difrod gan foch daear, neu lasbrennau yn gwau at ei gilydd i ffurfio muriau naturiol. Efallai bod diffyg cyllid ac felly diffyg cynnal ond mae dyletswydd i sicrhau bod safleoedd mewn cyflwr da, saff, yn enwedig os ar agor i’r cyhoedd.
Ysgrifennodd y diweddar Barch Lyn Lewis Dafis erthygl fer o’r enw Englynion on gravestones. Nododd ef bod newid wedi bod ar ôl y 19eg Ganrif, gyda chofebau a cherrig bedd yn cael eu gweld fel cysylltiad rhwng y teulu byw a’r meirw.
Mae prosiect Englyn Bedd yn gwneud ymdrech fawr i gadw’r cysylltiad yna’n fyw. Y cam nesaf yw cyhoeddi Y Flodeugerdd Englynion Beddau ac mae gwaith ar Blodeugerdd II wedi cychwyn - dwi’n ddiolchgar i medru cyfrannu iddynt.
Emma O’Connor (Rheolwr Gweinyddu ac Eiddo, Esgobaeth Tyddewi)