Dydd Sul Ymwybyddiaeth Anabledd
Mae eglwysi ledled y DU yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026.
Y dyddiad swyddogol yw 27 Medi ond gallwch ddathlu ar unrhyw Sul sy'n addas i'ch eglwys.
Thema 2026 yw ‘Llawer o Aelodau mewn Un Corff’ ac mae'n pwyso ar 1 Corinthiaid 12: 12-27 i ddathlu'r gwirionedd nad yw'r Eglwys yn gyflawn heb bobl anabl.
Mae adnoddau newydd creadigol am ddim ar gael i'w lawrlwytho gan yr elusen Gristnogol Through the Roof. Mae'r rhain wedi'u cynhyrchu gyda'r Cristion awtistig ifanc Triona Brading sydd wedi cynhyrchu fideo byr am 'Gorff Crist': yr Eglwys – gyda phobl anabl a niwrowahanol fel rhannau hanfodol o'r corff hwnnw. Mae ei hiwmor ysgafn yn gosod her bwerus: beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i'r Eglwys fyw fel un corff, lle mae pob person — boed anabl ai peidio — yn cael ei groesawu, bod ei angen ar yr eglwys a’i fod yn gallu chwarae ei ran?
Mae'r adnoddau wedi'u cynllunio i helpu eglwysi i symud y tu hwnt i ymwybyddiaeth tuag at Fynediad, Perthyn a Chomisiwn: ABC Cynhwysiant Anabledd (Access, Belonging and Commission), ac i sbarduno sgyrsiau a all arwain at newid parhaol. Mae'r rhain ar gael gan Through the Roof (https://throughtheroof.org/forchurches/disability-awareness-sunday/) ac maen nhw’n cynnwys:
- Dau fideo byr
- Amlinelliad o wasanaeth parod i'w ddefnyddio
- Syniadau ymarferol ar gyfer addoliad pob oed a gweithgareddau ieuenctid
Wrth i eglwysi ledled y DU – a thu hwnt – ymuno gyda’i gilydd, mae Through the Roof yn gobeithio y bydd Sul Ymwybyddiaeth Anabledd 2026 yn ysbrydoli llawer i ddweud yn hyderus: rydyn ni’n llawer o aelodau mewn un corff – ac mae pawb yn bwysig.