Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2026 Croesi ffiniau

Croesi ffiniau

Crossing borders 1.jpg

Mae Shirley Murphy yn mwynhau ei gweinidogaeth yn Iwerddon

Symudais i Eglwys Iwerddon ym mis Awst 2025 o'r Eglwys yng Nghymru i fod yn Rheithor Grŵp Plwyfi Dundalk yn Esgobaeth Armagh. Mae gen i bum eglwys, pedair ohonyn nhw yng Ngweriniaeth Iwerddon ac un yng Ngogledd Iwerddon.

Er bod yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwys Iwerddon yn daleithiau hunan-lywodraethol, mae'r prif wahaniaeth yn gorwedd yn eu hanes a'u strwythur: mae gan yr Eglwys yng Nghymru (a sefydlwyd ym 1920) chwe esgobaeth, tra bod Eglwys Iwerddon (a sefydlwyd ym 1871) yn cwmpasu ynys Iwerddon yn ei chyfanrwydd (Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon). Mae Eglwys Iwerddon yn cael ei harwain gan Archesgob Armagh (Archesgob Iwerddon Gyfan) ac Archesgob Dulyn (Archesgob Iwerddon).

Defnyddir Llyfr Gweddi Gyffredin Eglwys Iwerddon yn ein holl wasanaethau, sy'n amrywio o ddefodau Eingl-Gatholig (uchel eglwysig) i arddulliau mwy modern, diwygiedig. Rydyn ni’n cael ein hystyried yn fwy Protestannaidd nag Anglicanaidd ac yn darparu gofod lle gall pobl sydd â safbwyntiau amrywiol ar ddiwinyddiaeth a litwrgi gyd-addoli. Ar ben hynny, tra bod yr Eglwys yng Nghymru yn rhoi pwyslais cynyddol ar statws cyfartal y Gymraeg a'r Saesneg yn yr addoliad, Saenseg yw gwasanaethau’r Eglwys Iwerddon yn bennaf. Rydyn ni’n gweddïo dros y Frenhiniaeth yn ein heglwysi yng Ngogledd Iwerddon ac yn gweddïo dros yr Arlywydd yn ein Heglwysi yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Mae Eglwys Iwerddon yn ein disgrifio fel cymuned o ddisgyblion, sy’n annog plwyfi i ddatblygu eu strategaethau cenhadaeth eu hunain; mae pob plwyf ac esgobaeth yn cymryd rhan yn y dasg gyffredin hon. Mae gan Gristnogion lleol wybodaeth leol ac felly gallant ystyried a gweld beth sy'n fwyaf addas i'w sefyllfaoedd.

Crossing borders 2.jpg

Fel eglwysi, rydyn ni’n dathlu'r cynnydd ar undod a ddaeth yn sgil eciwmeniaeth ac rydyn ni’n gweithio'n dda gyda'r eglwysi Catholig lleol, gan yn aml gynnal digwyddiadau ar y cyd.

Gwasanaethau’r cynhaeaf a'r Nadolig yw fy ffefrynnau. Mae gwasanaethau’r cynhaeaf yn wahanol ym mhob eglwys, ac yn dod â Phrotestaniaid a Chatholigion ynghyd - gall y bwffe ar ôl y gwasanaethau fwydo byddin. Mae gwasanaethau carolau y Nadolig hefyd yn amrywio. Mae gan Eglwys Sant Nicholas (a elwir yn Eglwys Werdd oherwydd ei thŵr gwyrdd) wasanaeth Carolau yng ngolau Cannwyll, sy'n denu dros 700 o bobl.

Mae gennym Wasanaeth Rhuban Melyn ym mis Ionawr pan fyddwn yn bendithio'r rhubanau melyn sy'n addurno tref Dundalk er cof am anwyliaid.

Rydw i wedi bod yn Rheithor y grŵp hwn ers 9 mis, ac mae wedi bod yn fendith mewn cymaint o ffyrdd. Mae'r teimlad hwnnw o ddod adref wedi dyfnhau gyda phob gwasanaeth wrth i mi ddod i adnabod fy nghyd-blwyfolion a chyfrannu at fywyd yr Eglwys.