Allwch chi helpu?
Mae angen Rheolwr Olygydd newydd ar Pobl Dewi. Hoffai'r Archddiacon Mones Farah glywed gan ddarllenwyr sydd â diddordeb yn y rhan bwysig hon o strategaeth genhadaeth Tyddewi
Mae’n anochel bod newid yn effeithio ar bob un ohonom ac yn cyffwrdd â phob agwedd ar fywyd a gweinidogaeth. Daw'r rhifyn hwn o Pobl Dewi ar adeg o drawsnewid - rhifyn interim ydyw rhwng ein golygydd sy'n gadael a'r golygydd newydd rydyn ni’n gobeithio dod o hyd iddo neu iddi a’i benodi mewn da bryd ar gyfer rhifyn mis Medi. Mewn arolwg esgobaethol diweddar ar gyfathrebu, derbyniodd Pobl Dewi adborth cadarnhaol iawn gan ymatebwyr ar draws yr esgobaeth. Mae'n amlwg yn cael ei werthfawrogi nid yn unig o fewn ein heglwysi, ond hefyd y tu hwnt, a chaiff ei gydnabod fel mynegiant gwerthfawr a phwysig o gyfathrebu ym mywyd yr esgobaeth.
Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i David Hammond-Williams, a gamodd yn hael i rôl y Golygydd ar sail wirfoddol yn dilyn ymddeoliad ein golygydd blaenorol, a roddodd y gorau iddi ar ôl blynyddoedd lawer o wasanaeth ffyddlon ac ymroddedig. Diolch i barodrwydd David i gamu i’r adwy yn ystod y cyfnod pontio hwn, roedd modd i Pobl Dewi barhau i gyrraedd ein cymunedau, gan rannu bywyd a thystiolaeth yr Eglwys ar draws yr esgobaeth.
Dydy’r gwaith o gynhyrchu'r rhifyn hwn ddim wedi bod heb ei heriau. Ar adegau, roedd yna benderfyniadau anodd yn ein hwynebu, gan gynnwys a fyddai'n bosibl cyhoeddi o gwbl. Fodd bynnag, trwy benderfyniad, ymrwymiad, a llawer o waith caled gan y rhai sy'n cymryd rhan, roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig i’r rhifyn hwn gael ei gyhoeddi, hyd yn oed ar ffurf lai.
Wrth edrych ymlaen, os yw Pobl Dewi i barhau yn ei fformat a'i faint presennol, byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw un a allai fod yn teimlo eu bod yn cael eu galw i fod yn rhan o’r tîm, yn enwedig i rôl y Golygydd. Er bod y tîm ehangach bob amser yn barod i gynnig cefnogaeth, mae'r rôl ei hun yn gofyn am amser a set benodol o ddoniau a sgiliau.
Os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich annog i archwilio'r cyfle hwn, neu os hoffech ofyn cwestiynau yn anffurfiol, cysylltwch â mi archdeacon.farah@cinw.org.uk. Byddwn wrth fy modd yn siarad â chi ac ateb unrhyw gwestiynau y gallaf, ac, lle y bo angen, eich cysylltu ag eraill a allai helpu ymhellach.
Mae Pobl Dewi yn parhau i fod yn rhan allweddol o strategaeth gyfathrebu ac o fywyd yr esgobaeth. Trwyddo rydyn ni’n siarad nid yn unig ag aelodau’r eglwys, ond hefyd â'r cyhoedd ehangach. Mae'r Eglwys yn parhau i fod yn llais unigryw, mawr ei angen ar gyfer ein hoes, a thrwy'r cyhoeddiad hwn gellir clywed y llais hwnnw o hyd. Efallai trwy ei dudalennau, gall bywyd, geiriau a chariad Iesu Grist gyffwrdd â chalonnau, annog ffydd, a helpu pobl i gyfarfod â'r Duw sy'n eu caru.