Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2024 Uwchgylchu

Uwchgylchu

Catrin Eldred sy’n adrodd ar brosiect newydd Plant Dewi

Sefydlwyd Prosiect Tadau Plant Dewi mewn ymateb i ganfyddiadau nad oedd llawer o wasanaethau ar gael yn benodol i gefnogi tadau. Mae'r prosiect yn annog tadau i gyfarfod, cefnogi ei gilydd, adeiladu ar eu perthnasoedd yn y cartref a'r gymuned, dysgu sgiliau newydd, cadw'n iach a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy'n cefnogi eu cymuned. Mae'r prosiect hefyd yn cynnig sesiynau Dad a Fi i ddarparu cyfleoedd i dadau a'u plant dreulio amser yn meithrin perthnasoedd ac atgofion gyda'i gilydd.

Yn ogystal â garddio, gwaith coed/saer a sesiynau ymarferol eraill, mae Plant Dewi wedi sefydlu prosiect uwchgylchu ac ailgylchu beiciau. Mae beiciau diangen neu feiciau sydd ddim yn cael eu defnyddio, a'r rhai a fyddai fel arall wedi glanio mewn safle tirlenwi, yn cael eu rhoi i'r prosiect ac yna naill ai’n cael eu hadnewyddu neu eu defnyddio am eu darnau. Mae gwirfoddolwyr yn cael y dewis, i gyfnewid eu hamser i’r prosiect am feic i’w hunain neu am feic i aelod o’u teulu.

Mae'r prosiect yn cynnig cyfleoedd i dadau gymdeithasu, dysgu sgiliau ymarferol, manteisio ar drafnidiaeth gynaliadwy a gweithgareddau hamdden rhad i'w teuluoedd, ac mae hefyd yn llesol i'r amgylchedd.

Plant Dewi Cycle Project 2

Ym misoedd Ebrill a Mai eleni, mae'r prosiect wedi cynnig rhai gweithgareddau beicio sydd â’r nod o gael teuluoedd yn ôl ar eu beiciau ac yn mwynhau amser hamdden gyda'i gilydd, yn ogystal â chefnogi materion lles a chynaliadwyedd.

Cynhaliwyd sesiwn Dr Bike ym mis Mai gyda chefnogaeth mecanig o’r siop feiciau leol a thadau’r prosiect. Nod y sesiwn oedd cynnig archwiliad mecanyddol ac atgyweiriadau syml am ddim er mwyn cael beiciau wedi’u hesgeuluso yn ôl ar y lôn unwaith eto. Roedd cyfle hefyd i rieni gael gafael ar feiciau wedi'u hailgylchu a darnau yn gyfnewid am rodd i'r elusen.

Cafodd Bws Beic ei dreialu hefyd i annog mwy o blant i feicio i'r ysgol yn rheolaidd gyda Dad neu Mam. Mae'r digwyddiad cymunedol yn defnyddio model profedig o rieni a phlant yn beicio mewn grwpiau i'r ysgol, gydag arosfannau rheolaidd ar y llwybr, fel y gall teuluoedd ymuno â'r 'bws' i'r ysgol.

Er mwyn cynnal y momentwm, trefnwyd Tour De Penfro mewn ysgol gynradd leol ar gyfer mis Mehefin. Mae'r digwyddiad, sydd wedi’i drefnu yn ystod y diwrnod ysgol, yn annog plant a rhieni i ddod i adnabod y llwybrau beicio a'r seilwaith lleol ychydig yn well a defnyddio'r rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau sydd ar gael i deithio'n lleol. Bydd tadau o'r prosiect yn stiwardio.

Cysylltwch â Peter Arnold ar 07507687807 i ddarganfod mwy.