Pobl Dewi: Rhagfyr 2024
Ffydd ac Ofn: pan fo Cristnogaeth yn drosedd
Elusen yw Open Doors, sy'n gweithio’n ddygn mewn gwledydd lle mae bod yn Gristion yn gallu achosi trafferthion difrifol i chi.
Bob blwyddyn, ym mis Ionawr, bydd Open Doors yn cyhoeddi World Watch List. Mae’r rhestr yn nodi’r 50 gwlad mwyaf anodd yn y byd i fod yn Gristion; Gogledd Korea sydd ar frig y rhestr yn 2024 – yno, mae dim ond bod yn berchen ar Feibl yn ddigon i’ch dedfrydu i garchar.
O Deuwch ac Addolwn
Mae cwrs Adfent yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer 2024 ar y gweill
Bwriad O Deuwch ac Addolwn yw cryfhau ein ffydd trwy gydol cyfnod yr ŵyl, o Adfent 1 hyd at yr Ystwyll. Mae'n cynnwys cyflwyniad gan Archesgob Cymru ac yna chwe sesiwn lawn, pob un dan arweiniad un o’r Esgobion esgobaethol.
Oherwydd, wrth i ni weld 'Blwyddyn y...' yn llifo i mewn i 'Flwyddyn y...' arall, y pwynt cyffredinol o ddefnyddio Halen a Goleuni fel delwedd ar gyfer eleni oedd mai dyma'r pethau bychain sy'n cael yr effaith fwyaf yn aml. Pethau bychain sy’n cael eu gwneud dros amser neu sydd hyd yn oed wedi’u gwneud yn bell yn ôl sydd wedi newid cwrs hanes, neu wedi cael effaith bellgyrhaeddol arnom yn bersonol.
Mae'r Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol, Justin Arnott, yn awgrymu beth o bosibl fydd gwaddol y deuddeg mis diwethaf
Gwau i Gofio
Cynhaliodd Grŵp Gwau Eglwys Llangoedmor Ŵyl i ddathlu’r pabi coch ar gyfer Sul y Cofio ddechrau Tachwedd.
Daeth cannoedd o bobl i Eglwys Sant Cynllo i weld y miloedd o flodau pabi a gafodd eu creu gan grŵp gwau'r eglwys, ac yna eu cynnwys mewn arddangosfeydd er cof am ryfeloedd byd, glaniadau D-Day a brwydrau eraill.
Roedd rhai ymwelwyr wedi teithio cryn bellter, o Lyn Ebwy a Margam, Llanon a Chaerfyrddin ac Arberth.
"Cafwyd ymatebion mor gadarnhaol,” meddai un o aelodau'r grŵp gwau, Margaret Smith - "disgrifiadau fel hardd, gwych, emosiynol, trawiadol ac anhygoel"
Gêm ddifyr i’r plant oedd dod o hyd i’r llygoden fach sy’n ‘byw’ yn yr eglwys. Tasg y llygoden oedd Gwarchod y Blodau Pabi. Mae'r llygoden fach wlân wedi byw yn yr eglwys ers tro, ond does neb yn gwybod o ble ddaeth hi!
Yr Arglwydd, Barnwr mawr y byd, a eilw 'nghyd y werin…
Mae'r flwyddyn gyfreithiol yn dechrau ym mis Hydref ac fe’i nodir gan seremoni sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol – bryd hynny dim ond ar adegau penodol y gellid cynnal busnes cyfreithiol.
Yn Llundain, mae'r barnwyr, sydd wedi gwisgo yn eu gwisgoedd urddasol, yn gorymdeithio o Lysoedd y Gyfraith i Abaty Westminster. Yng Nghymru, yn naturiol, maen nhw’n ymgynnull yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi i weddïo am arweiniad ar ddechrau'r tymor newydd, ac wedi’u gwisgo’n ysblennydd hefyd mewn lliwiau sy'n adlewyrchu eu lle yn yr hierarchaeth.
Arweiniwyd y gwasanaeth dwyieithog gan y Deon, Sarah Rowland Jones, ac roedd y gynulleidfa yn cynnwys llawer o'r ffigyrau blaenllaw ym marnwriaeth Prydain. Cyflwynwyd y darlleniadau gan yr Arglwyddes Brif Ustus Cymru a Lloegr, y Farwnes Sue Carr, y fenyw gyntaf i ddal y swydd, a'r Arglwydd David Lloyd Jones, barnwr yn y Goruchaf Lys
Noson dda allan
Mae'r Esgob Dorrien wedi bod allan gyda Bugeiliaid Stryd Penfro i gael ymdeimlad o'u gweinidogaeth a'u cyfraniad i'r gymuned leol. Mae Bugeiliaid Stryd Penfro, a hefyd Hwlffordd, yn cynnig cymorth bugeiliol ac ymarferol i bobl sy'n defnyddio'r tafarndai a'r clybiau yn ein trefi. Gallai hyn gynnwys rhoi dŵr i'r sychedig, hancesi i’r dagreuol a hyd yn oed esgidiau solet fel y gall rhywun gerdded adref. Yn bwysicaf oll, maen nhw'n rhywun i siarad â nhw, i rannu poen a phryderon â nhw ac i rannu gweddïau a chariad Iesu.
Canmolodd yr Esgob Dorrien eu gwaith gan ddweud eu bod yn dystion i Grist ac yn cyflawni ei orchymyn i garu ein cymdogion. Fe wnaeth y croeso roedden nhw’n ei gael ymhob man a pharch y gymuned tuag atyn nhw gryn argraff arno, a bendithiodd eu gweinidogaeth a'u gwaith.
Undod mewn Darganfod
Mae caniatáu i’n calonnau a'n meddyliau fod yn agored i ddarganfod yn un o'r rhoddion mwyaf y gallwn ei roi i ni'n hunain ac i’r rhai o'n cwmpas. Dyna farn y Swyddog Rhyng-ffydd, Shirley Murphy
Croesawu Amrywiaeth
Gyda’r Wythnos Ryng-Ffydd ar y gorwel, mae plant Blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Model wedi bod yn darganfod sut mae'n darparu llwyfan hanfodol ar gyfer meithrin dealltwriaeth a pharch ymhlith gwahanol gymunedau crefyddol ac anghrefyddol. Y pennaeth Gail Hawkins sy'n esbonio
O Orllewin Cymru i Walsingham
Adroddiad Mary Rees ar daith flynyddol lwyddiannus arall i gysegrfa East Anglia
Roedd ein pererindod yn 2024 yn un hapus dros ben a chawsom gryn foddhad yn ysbrydol a chymdeithasol. Dyma ddyddiadur byr iawn o bum diwrnod hyfryd a dreuliwyd yno.