Swyddfa'r Esgob
Parch. Shirley Murphy - Caplan yr Esgob
![Shirley Murphy [5]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/Shirley_Murphy_5.width-800.jpg)
Mae Shirley yn gweithio gyda'r Esgob gan roi cyngor a chefnogaeth iddi yn ei gwaith o arwain yr Esgobaeth. Wrth weithio o fewn tîm bychan - yr Esgob, ei Chynorthwy-ydd Personol ac Uwch-Staff yr Esgobaeth - mae hi'n sicrhau bod cyfathrebu effeithiol ac effeithlon rhwng Uwch-Staff yr Esgob, swyddfeydd yr Esgob a'r Esgobaeth, y Gadeirlan a thu hwnt i hynny, i bartneriaid eciwmenaidd, i gydberthnasau rhyng-ffydd a chyrff allanol.
Rhan o'i rôl hi yw i adeiladu ar y rhwydwaith o gysylltiadau gyda bywyd dinesig, masnachol, addysgol a sefydliadol y wlad. Mae hi hefyd yn aelod o'r tîm sy'n cefnogi gweinidogaeth yr Esgob o fewn yr Esgobaeth, gan weithio'n agos gyda Chynorthwy-ydd Personol yr Esgob a'r Swyddog Cyfathrebu.
Mae hi'n cynhyrchu deunydd litwrgaidd yn ôl y galw, ac yn mynychu pob digwyddiad cysegredig gyda'r Esgob, er mwyn ei gwneud hi'n haws i'r Esgob roi'r holl sylw i'r litwrgi a'r gynulleidfa.
Dawn Evans - CP yr Esgob

Mae Dawn yn gweithio'n agos iawn gyda'r Esgob ym mhob agwedd o'i gwaith, gan roi cefnogaeth ymarferol iddi wrth i'r Esgob ymgymryd â'r holl faterion a ddaw i'w sylw.
Lleolir Dawn yn Swyddfa'r Esgob. Hi yw'r pwynt cyswllt cyntaf, ac fel rhan o'i dyletswyddau gweithredol mae hi'n cydlynu cyfarfodydd, yn paratoi briffiau, prosesu gohebiaeth ac yn gwneud trefniadau, er mwyn sicrhau bod gwaith yr Esgob yn effeithlon ac yn effeithiol wrth iddi ymateb i anghenion sy'n newid yn barhaus.
Yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r Esgob a'r Uwch-Dîm Arweinyddol, mae Dawn yn gweithio gydag amrediad eang o gydweithwyr mewnol, allanol a rhyngwladol.