Esgob Tyddewi

Y Gwir Barchedig Ddr Joanna Penberthy yw 129fed Esgob Tyddewi.
Hi oedd y ddynes gyntaf i gael ei phenodi'n esgob yn yr Eglwys yng Nghymru, a hynny'n dilyn penderfyniad y Corff Llywodraethol, ym mis Medi 2013, i ganiatau hyn i ddigwydd.
Cafodd ei hethol ym mis Tachwedd 2016 a cadarnhawyd ei phenodiad gan Synod Cysegredig yr Eglwys yng Nghymru ar y 30ain o Dachwedd. Cafodd ei chysegru yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar yr 21ain o Ionawr 2017 a'i gorseddu yn Nhyddewi ar yr 11eg o Chwefror.
Roedd hi'n arwyddocaol ei bod hi'n dychwelyd i'r esgobaeth lle bu'n gweinidogaethu o 1993-2010, ac mae yno hefyd yr ordeiniwyd y menywod cyntaf yn offeiriaid, a hithau yn eu plith.
Ganwyd yr Esgob Joanna yn Abertawe ac fe'i magwyd yng Nghaerdydd. Derbyniodd ei haddysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a graddiodd o Goleg Newnham, Caergrawnt. Aeth ymlaen wedyn i hyfforddi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg St John's, Nottingham a Cranmer Hall, Durham.
Cafodd ei gwneud yn ddiacones ym 1984, ac fe'i hordeiniwyd yn Ddiacon ym 1987. Roedd hi ymhlith y menywod cyntaf yng Nghymru i gael eu hordeinio'n offeiriaid ym 1997.
Mae hi wedi gwasanaethu yn esgobaethau Durham, Llandaf a Llanelwy. Bu'n Swyddog Taleithiol Datblygu ac Adnewyddu Plwyfi am 5 mlynedd, ac yn 2007 fe'i phenodwyd yn Ganon yng Nghadeirlan Tyddewi.
Yn 2010 fe adawodd Canon Joanna Gymru er mwyn gwasanaethu yn Esgobaeth Caerfaddon a Wells, ond fe ddychwelodd yn 2015 fel Rheithor Glan Ithon yn Esgobaeth Abertawe a Brycheiniog.
Mae ganddi hi a'i gŵr, y Parch. Adrian Legg, bedwar o blant ac un ŵyr. Ymhlith ei diddordebau mae'r Esgob yn mwynhau Ffiseg cwantwm, darllen a gwylio adar.