Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Troi meddwl cyfoethog yn weithredu cadarnhaol

Troi meddwl cyfoethog yn weithredu cadarnhaol

Tir Dewi Staff Member [Wyn Thomas]

Mae Tir Dewi, y rhwydwaith cymorth esgobaethol ar gyfer teuluoedd ffermio, wedi’i ganmol fel enghraifft o sut y dylai’r Eglwys yng Nghymru fod yn ymdrin â gweinidogaeth wledig.

Roedd y sefydliad yn un o nifer o brosiectau ar draws y Dalaith a gafodd sylw yng nghyfarfod cyntaf y Gymuned Ddysgu Esgobaethol, a sefydlwyd i amlygu arfer gorau mewn nifer o feysydd allweddol o weithgarwch yr Eglwys.

Daeth y digwyddiad deuddydd, Dweud Stori Gobeithiol, ag esgobion, arweinwyr eglwys, swyddogion o bob esgobaeth a chynghorwyr taleithiol ynghyd mewn fforwm i rannu eu profiadau ac i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chael eu hysbrydoli ganddynt.

Yn ei gyflwyniad, dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, fod gweinidogaeth dda yn digwydd ar draws Cymru a, chan fod strwythur yr Eglwys yn newid, roedd y fforwm yn gyfle i “rannu, profi a rhaeadru” rhai o’r meddylfryd a’r profiad cyfoethog enillwyd. Dechreuodd Tir Dewi yn Esgobaeth Tyddewi yn 2015 ac ers hynny mae wedi ehangu ledled Cymru. Bellach mae ganddo 83 o wirfoddolwyr hyfforddedig ac wyth o weithwyr sy'n gwrando ac yn helpu i gyfeirio ffermwyr at yr help sydd ei angen arnynt. Mae gwirfoddolwyr eraill yn hyrwyddo gwaith Tir Dewi mewn marchnadoedd da byw a sioeau amaethyddol. Mae’r llinell gymorth ar agor o 7am-10pm bob dydd, yn Gymraeg a Saesneg. Hyd yma, mae mwy na 2,000 o ffermwyr wedi cael cymorth.

“I fynd i’r afael â’r hyn y mae ffermwyr yn mynd drwyddo mewn gwirionedd mae’n rhaid i chi ddatod llawer o glymau,” dywedodd sylfaenydd Tir Dewi, yr Archddiacon Eileen Davies, wrth y cyfarfod. “Mae’n cymryd dewrder iddyn nhw godi’r ffôn a gofyn am help ,”

Mae Tir Dewi hefyd yn gweithio gyda’r clybiau ffermwyr ifanc i annog y genhedlaeth nesaf i fod yn fwy agored a pharod ar gyfer sgyrsiau. “Mae angen i ni gael pobl i siarad oherwydd eich bod chi'n gwybod o glywed llais rhywun sut maen nhw'n teimlo’n go iawn,” meddai Eileen.

Y tu ôl i’r cyfan roedd yr awydd i rannu cariad Crist a gofalu am bawb,” meddai. “Dyma Grist yn gweithio o fewn ac yn ein plith, allan yn y meysydd. Dyna’r hyn y mae’n fraint inni allu ei wneud. Yr anrhydedd a’r wobr fwyaf oll yw clywed ffermwr yn dweud, ‘Diolch, rydw i dal yn fyw’.

Yn ogystal â gweinidogaeth wledig, edrychodd y fforwm hefyd ar amryw o feysydd eraill o fywyd yr eglwys – gweinidogaeth drefol, plannu eglwysi, eglwysi cadeiriol a rôl Esgobion.

Ceir adroddiad llawn o’r fforwm ar wefan yr Eglwys yng Nghymru.