Hafan Pobl Dewi: Rhagfyr 2023 Nadolig yn y Wlad Sanctaidd

Nadolig yn y Wlad Sanctaidd

Y mae Mones Farah yn cofio Nadolig wrth iddo dyfu ym Mhalestina

Dros 2000 mlynedd yn ôl bu digwyddiad seismig. Ganwyd Duw’r nefoedd a daear mewn tref fechan o’r enw Bethlehem. Ac er bod gwlad ei eni wedi gweld llanw a thrai o drigolion Crisntogol, caiff ei eni ei ddathlu gan 120,000 o Arabiaid Cristnogol yn Israel a nifer tebyg ym Mhalestinia a Gaza.

Hyd yn ddiweddar ffocws pennaf dathliadau Cristnogol oedd teuluoedd yn dod at ei gilydd naill ai cyn neu ar ôl mynychu’r eglwys gyda chinio moethus Noswyl Nadolig a choeden Nadolig syml yn ogystal ag addurniadau Nadoligaidd syml.

Christmas Tree Nazareth

Serch hynny, ers nawdegau cynnar y ganrif ddiwethaf, daeth dylanwadau gorllewinol ac y mae llawer mwy o bwyslais ar draddodiadau wedi eu mewnforio – rhoi anrhegion, marchnadoedd Nadolig, coed Nadolig yng nghanol trefi gyda digwyddiad arbennig i gynnau’r goleuadau ac wrth Siôn Corn (Baba Noel).

Ond yr ydym yn dal i gynnal yr hen draddodiad o berthnasau a ffrindiau yn galw gyda’i gilydd i ddymuno Nadolig llawen a bendithiol. Ond wrth i deuluoedd Cristnogol ac arweinwyr eglwysig ymweld â’u ffrindiau ac arweinwyr Moslemaidd a Druze ar eu dyddiau gŵyl, y mae unigolion ac arweinwyr Moslemaidd a Druze yn ymweld â Christnogion i ddymuno iddynt gyfarchion Nadolig cynnes.

Wrth edrych yn ôl at fy nghyfnod yn Nasareth, roeddwn yn edrych ymlaen at Nadolig a’r Pasg gan bod y dathliadau hynny yn golygu y byddwn yn cael dillad newydd, yn wahanol i’r wisg ysgol flynyddol. Yr hynaf o chwech yw fy nhad, ac felly byddai ein hewythredd a modrabedd a’u teuluoedd bach yn ymuno â ni ar Noswyl Nadolig am farbeciw a bwyd bras , a fyddai’n cael ei gadw at ddathliadau pwysig. Yna byddai’r noson yn parhau gyda chwarae cardiau, backgammon, tipyn bach o yfed, llawer o lawenydd a chwerthin yn hwyr i’r nos.

Dydd Nadolig, byddem i gyd yn mynd i’r Eglwys i ddathlu geni’r Iesu, ac yn dilyn hynny dal i fyny gyda ffrindiau a theuloedd na welsom y noson cynt ac a oedd yn llawer o hwyl, cymaint o brofiad o berthyn i’n gilydd ac i Iesu.

Er bod llawer o newidiadau wedi bod, mae cnewyllyn dathliadau’r Nadolig yn dal i fod yn ddathliadau’r Eglwys a ‘r teulu ynghyd. Serch hynny, eleni, rwyn meddwl y bydd yn cael ei brofi yn wahanol gan fod mwyafrif y Cristnogion yn y Wlad Sanctaidd yn Balestiniaid, felly bydd gan y golled ddychrynllyd o fywydau yn cael effaith a dylanwad ar y dathliadau; ie, hyd yn oed ar goffau geni Mab Duw yn y wlad. Synnwn i ddim na fydd hyd yn oed y dathliadau canol nos yn Eglwys y Geni ym Methlehem yn dawedog a chyfyngedig.

Wed’r cyfan gall Mathew 2:18 fod yn berthnasol yma :” Clywyd llef yn Rama, wylofain a galaru dwys, Rachel yn wylo am ei phlant ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddent mwy”.