"Amseru perffaith" i grant Plant Dewi
Mae Plant Dewi, yr elusen sy'n cefnogi teuluoedd yn Esgobaeth Tyddewi, wedi derbyn grant o £6,500 fel cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y gwasanaeth a ddarperir ganddynt.
Daw'r grant o'r Garfield Weston Foundation. Yn ogystal â'r arian, bydd Plant Dewi yn derbyn blwyddyn o gefnogaeth cynllunio strwythuredig gan dîm o bedwar arweinydd busnes fel rhan o'r rhaglen Pilotlight.
Roedd Plant Dewi yn un o 19 elusen i ennill y wobr, a hynny allan o dros 200 o ymgeiswyr o Gymru, gogledd Lloegr a chanolbarth Lloegr.
Dywedodd Catrin Evans, Rheolwr Plant Dewi: "Rydym wrth ein bodd i dderbyn y cyfle hwn, yn enwedig mewn cyfnod mor ansicr. Mae covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar ein elusen, mae'r holl brosiectau wedi gorfod addasu a hynny ar fyr-rybudd, gwelwyd colledion mawr yn y gwaith o godi arian a gwelwyd anghenion ein teuluoedd yn dwysau yn sgil yr argyfwng hwn.
Ni allai'r wobr yma fod wedi dod ar amser gwell i ni, roedd yn amseru perffaith i Plant Dewi gan ein bod yn mynd drwy adolygiad o'n strwythur rheoli a llywodraethu, sy'n amser o newidiadau cyffrous i ni. Edrychwn ymlaen at fedru cynllunio'r ffordd ymlaen, i gryfhau ein strwythr a sicrhau ein bod yn medru datblygu'r gefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd ar draws De Orllewin Cymru".
Mae Plant Dewi yn brosiect o elusen Cyngor Cyfrifoldeb Cymdeithasol Esgobaeth Tyddewi, sy'n gweithio i alluogi teuluoedd i wneud newidiadau positif yn eu bywydau, gan roi gobaith iddynt a'r synnwyr o berthyn, a'u cynorthwyo i fyw bywyd llawn trwy Grist.