Crair Canoloesol o Orllewin Cymru i’w arddangos yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Haf 2021
Rhoddir benthyg un o’i baglau esgobion o’r 12fed Ganrif gan Eglwys Gadeiriol Tyddewi I’r Amgueddfa Brydeinig fel rhan o arddangosfa bwysig yr haf ‘Thomas Becket: llofruddiaeth a sancteiddrwydd’. Cynhelir yr arddangosfa yn Llundain o ganol Mai 2021 tan 22 Awst 2021.
Bu’r fagl esgob yn un o sawl eitem canoloesol a ddatgelwyd yn 1865 yn ystod Gwaith atgyweirio gan y pensaer George Gilbert Scott i gryfhau tŵr bregus y Gadeirlan. Daethpwyd o hyd i faglau esgobion, yn ogystal â modrwyau a chwpanau cymun ym meddau Richard de Carew (Esgob Tyddewi 1256-1280) a Thomas Beck (Esgob Tyddewi 1280-1293).
Thomas Becket: llofruddiaeth a sancteiddrwydd yw’r arddangosfa gyntaf o bwys yn y DU am fywyd, marwolaeth ac etifeddiaeth Thomas Becket. Ysgytwodd y canol oesoedd gan ei lofruddiaeth greulon yng Nghadeirlan Caergaint yn 1170. Darlunir 500 mlynedd o hanes, o esgyniad rhyfeddol Thomas Becket o ddechreuad di-nod i fod yn un o’r ffigyrau amlycaf yn Lloegr y Normaniaid, i’w etifeddiaeth barhaol yn ystod y canrifoedd ar ôl ei farwolaeth. Defnyddir casgliad o 100 o eitemau arbennig yn cynnwys benthyciadau gwerthfawr o fannau gwahanol yn y DU ac Ewrop. Dengys y fagl esgob o Dyddewi o’r 12fed ganrif esiampl o grefftwaith eglwysig a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod Becket ei hun.
Archesgob Caergaint rhwng 1162 a 29 Rhagfyr 1170, llofruddiwyd Becket gan filwyr Harri’r Ail yng nghanol gwasanaeth y Gosber yng Nghadeirlan Caergaint. Ffraeodd Becket â Harri ynglŷn â rheolaeth y brenin dros yr eglwys. Bu Harri’r Ail yn gyfrifol am rwystro penodiad Gerallt Gymro fel Esgob Tyddewi. Yn ei le, penodwyd y mynach Normanaidd Peter de Leia, a fu’n gyfrifol am ail-adeiladu’r Eglwys Gadeiriol yn 1181, gan y brenin. Brwydrodd Harri (heb fawr o lwyddiant) yn erbyn yr Arglwydd Rhys, rheolwr Deheubarth a de Cymru. Claddwyd Gerallt Gymro a’r Arglwydd Rhys yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Gwnaethpwyd pererindod i greirfa Dewi Sant yn Nhyddewi ar 29 Medi 1171, llai na flwyddyn ar ôl llofruddiaeth Thomas Becket. Croniclir yr ymweliad yn Brut y Tywysogion. Cofnodir 850 mlynedd oddi ar y digwyddiad hwn yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ym Medi 2021. Daeth Tyddewi yn gyrchfan pererinion ar ôl datganodd y Pab Calixtus II yn 1123 mai dwy bererindod i Dyddewi oedd yn cyfateb ag un i Rufain. Cofnododd Gerallt ail ymweliad y Brenin i Dyddewi y flwyddyn ganlynol ar 1 Ebrill 1172. Mae gan yr Eglwys Gadeiriol gapel wedi’i gysegru i Sant Thomas Becket, sydd o bosibl ar safle ymweliad y Brenin i’r adeilad hŷn.
Dywedodd y Tra Pharchedig Ddr Sarah Rowland Jones, Deon Tyddewi, “Roedd y 12fed ganrif yn gyfnod pwysig yn hanes Cymru, gyda’r newid o reolaeth gan dywysogion brodorol y Cymry i’r frenhiniaeth Normanaidd a Seisnig. Mae’n bleser gennym i rannu hanes ein Heglwys Gadeiriol yn y cyfnod canoloesol, wrth roi benthyg un o’n trysorau i’r Amgueddfa Brydeinig am rai misoedd. Mae’n fraint i gyfrannu at yr arddangosfa neilltuol hon am fywyd, llofruddiaeth a dylanwad parhaol Sant Thomas Becket.”
Daw’r fagl esgob yn ôl i Dyddewi ar ddiwedd yr arddangosfa. Ar ôl hynny mi fydd i’w gweld yn gyhoeddus yn Nhrysorfa’r Eglwys Gadeiriol. Gwelir gwefan y Gadeirlan (www.StDavidsCathedral.org.uk) am wybodaeth i ymwelwyr I’r Eglwys Gadeiriol dan gyfyngiadau diogelwch COVID-19.
-----------------------------------------------------------------------------------------------------------
Dilynir Taith y Fagl Esgob ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Eglwys Gadeiriol Tyddewi, yn cynnwys Twitter, @StDavCath Lib, ar www.facebook.com/stdavidscathedral/, ac ar www.youtube.com/stdavidscathedral1181