Prosiect hanes yn ennill gwobr treftadaeth i Ysgol Penboyr
Enillodd Ysgol Penboyr wobr o £800 yng nghystadleuaeth Menter y Dreftadaeth Gymreig dydd Gwener diwethaf. Derbyniwyd y wobr yn Amgueddfa Sain Ffagan mewn seremoni arbennig. Roedd hwn yn brosiect ysgol gyfan ar hanes y capeli a'r eglwysi yn yr ardal leol a Chapel Penrhiw yn Sain Ffagan.
Cymerodd y prosiect hwn, Llannau’r Filltir Sgwâr, addoldai o fewn ardal yr ysgol yn fan cychwyn. Ymchwiliodd dosbarthiadau gwahanol adeiladau gwahanol, gan gasglu gwybodaeth o nifer o ffynonellau.
Arweiniodd yr anghysonderau rhwng ffynonellau gwahanol i gwestiynu dibynadwyedd yr wybodaeth a ddarganfuwyd. Buon nhw ar sawl ymweliad, siaradon nhw â llawer o bobl y tu allan i’r ysgol megis gweinidogion a thywyswyr ac ymwelwyd â Sain Ffagan.
Datblygodd disgyblion eu sgiliau ymholi ac ymchwil ac roedd tystiolaeth gref iawn o elfennau ehangach o wybodaeth. Gwnaethpwyd defnydd helaeth o dechnoleg ac roedd hi’n braf gweld sgiliau fel rhifedd, llythrennedd a TGCh wedi eu hymgorffori’n rhwydd mewn astudiaeth o dreftadaeth a hanes lleol. Cyfunwyd yr elfennau gwahanol hyn mewn gwefan.
Rhoddodd priodas ecogyfeillgar ffug gyfle i’r ysgol gyfan ddathlu’r hyn a ddysgwyd
Dyma rhodd caredig o sedd fendigedig i'r ysgol gan Blwyddyn 6 a'u rhieni. Diolchodd Dr Carol James eu pennaeth, i bob un ohonynt am eu cyfraniad arbennig i Ysgol Penboyr a dymunwyd y gorau iddynt wrth drosglwyddo i Ysgol Emlyn ym mis Medi.