Cefnogaeth Cyfeillion
Mae Eglwys Sant Mihangel, Llanfihangel y Creuddyn, Ceredigion, wedi ennill Pleidlais Cyfeillion Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi 2021, ac fe fyddant yn derbyn grant arbennig o £10,000 yn gymorth gyda'r cost o adnewyddu tŵr a tho yr eglwys Restredig hon.
Bydd y gwaith adnewyddu yn helpu i sicrhau y bydd yr eglwys odidog yma yn dal i sefyll am o leiaf 500 mlynedd arall, a'i bod hi'n parhau i fod yn le diogel a chroesawgar i'r gymuned ac i ymwelwyr.
Mae Sant Mihangel yn adeilad hanesyddol nodedig iawn yng Nghymru. Adeiladwyd hi yn y drydedd ganrif ar ddeg; er ei bod hi'n nodweddiadol o blaen, mae'n urddasol, â'r cymeriad canoloesol yn dal yn amlwg. Mae'n un o'r ychydig eglwysi Romanesg Cymreig sydd wedi'i hadeiladu ar ffurf croes, gyda'r tŵr yn y canol.
Dywed Rhian Davies, Trysorydd yr eglwys, "Rydym ni'n hynod falch o fod wedi ennill y Bleidlais hon, ac rydym ni'n ddiolchgar tu hwnt i Gyfeillion Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Eglwysi am roi'r bleidlais i ni. Heb y wobr hon ni fyddai gwaith adnewyddu ar y raddfa hon wedi bod yn bosib."
Bydd y nawdd ychwanegol yma yn sicrhau bod yr holl waith adnewyddu angenrheidiol yn cael ei gwblhau, gan ddiogelu dyfodol yr Eglwys, nid yn unig fel man i addoli, ond fel adeilad hanesyddol am flynyddoedd i ddod.