Ymladd y firws yn Esgobaeth Tyddewi
Mae Gorllewin Cymru wedi bod ar flaen y gâd yn yr her o ddarganfod ffyrdd newydd, arloesol o fynd i'r afael â phandemig Covid-19.
Bu Dr Rhys Thomas, un o uwch feddygon Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, mewn partneriaeth â chwmni CR Clark, Rhydaman, yn cynllunio a chynhyrchu peiriant anadlu newydd i gynorthwyo cleifion a chlirio gronynnau'r feirws o'r aer.
Tri diwrnod gymerwyd i gynllunio'r peiriant, ac ar ôl derbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru, cynhyrchwyd 100 o unedau'r dydd.
"Roedd yn gynllun syml a grymus, a grewyd yn benodol ar gyfer gweithio'n erbyn y feirws hwn mewn awyrgylch heintus," medd Dr Thomas.