Anghyfiawnder, mawr a bach
Justin Arnott, y Swyddog Cyfrifoldeb Cymdeithasol, sy’n myfyrio ar ddigwyddiadau diweddar yng nghyd-destun Halen a Golau
Yr hyn wnaeth fy nharo yn ystod y terfysgoedd diweddar a’r ymateb iddyn nhw, ar wahân i’r ffaith amlwg eu bod nhw’n gyfeiliornus, oedd sut mae unigolion wedi cael eu hadnabod a’u herlyn am eu gweithredoedd. Mae meddylfryd torfol, neu ymddygiad grŵp, yn cael ei grybwyll yn aml, ac mewn rhai o’r achosion, mae’n edrych fel pe bai pobl yn byw eu bywydau beunyddiol cyn cael eu hysgubo i fod yn rhan o’r terfysg.
Yn amlwg, dydy hyn ddim yn esgus dilys, a dydy e ddim wedi gweithio fel amddiffyniad cyfreithiol. I mi, mae’n tynnu sylw at her yr unigolyn yn erbyn y dorf. Sut fydden ni’n ymateb? Mae hanes yn frith o achlysuron pan mae pobl dda, yn ôl pob golwg, wedi cael eu gwthio tuag at arferion neu ymddygiad gwael. Cynsail Blwyddyn Halen a Golau yw ein bod ni fel unigolion yn gallu creu newid a chael effaith gadarnhaol ar y bobl hynny sydd agosaf i ni ac ar gymdeithas yn ehangach, yn hytrach na chael ein sgubo gan y llif neu fynd ar goll yn y dorf.
Yn ffodus, mae digwyddiadau fel hyn yn anghyffredin. Yr hyn sy’n llawer mwy cyffredin yw achosion beunyddiol o hel clecs, anoddefgarwch, sbeit neu hyd yn oed ddifaterwch, a’r rheiny’n cael eu goddef oherwydd nad oes neb amlwg yn cael ei niweidio neu nad oes unrhyw ddeddfau yn cael eu torri. Mae difaterwch neu ddiffyg gweithredu yn bla penodol yn ein cymdeithas bellach. I ddyfynnu’r Esgob Desmond Tutu, “Os ydych chi’n niwtral mewn achos o anghyfiawnder, rydych chi wedi dewis ochr y gormeswr. Os yw troed eliffant ar gynffon llygoden a chithau’n dweud eich bod yn niwtral, fydd y llygoden ddim yn gwerthfawrogi eich niwtraliaeth.”
Ond ydy difaterwch, a phobl yn dewis gwneud dim byd, yn digwydd yn amlach? Gall fod yn anodd llunio barn wrth fonitro’r cyfryngau yn unig. Mae’r adroddiadau dyddiol am bobl o flaen eu gwell a charchardai gorlawn yn ymddangos fel pe baen nhw’n canolbwyntio ar y rhai sydd gerbron y llys a’u dedfrydau yn unig. Roedd y sylw i’r terfysgoedd hyd yn oed yn llethu’r sylw i brotestiadau heddychlon yn erbyn y trais a’i achosion.
Mae ein her yn ddeublyg o leiaf. Yn gyntaf, mae angen i ni sefyll yn erbyn achosion y terfysgoedd diweddar ond hefyd yn erbyn yr anghyfiawnderau llai sy’n digwydd bob dydd. Yn ail, mae angen i ni wrthsefyll y demtasiwn i roi’r ffidil yn y to neu sefyll o’r neilltu a dewis aros yn niwtral, opsiwn sy’n ymddangos yn fwy diogel.
Mae sut i wneud hynny yn golygu mwy na dweud ‘Iesu’. Mae’n gofyn i ni ystyried ac arfer ei ddysgeidiaeth. Drwy ddilyn ei esiampl yn ymarferol a cheisio’r nerth a addawodd drwy’r Ysbryd Glân, fe fyddwn ni, un weithred fach ar y tro, yn trawsnewid nid yn unig cymdeithas yn ei chyfanrwydd, ond y cylch o bobl sydd agosaf aton ni wrth i ni fyw ein bywydau bob dydd. Bod yn halen sy’n cadw ac yn ychwanegu blas a bod yn olau sy’n datgelu anghyfiawnder, ond sydd hefyd yn llewyrch ar y llwybr ymlaen tuag at oleuni a gobaith pawb.