Pobl Dewi: Medi 2024
Tocio am Dyfiant
Mae'r esgobaeth wedi lansio strategaeth newydd a fydd, dros y flwyddyn nesaf, yn edrych ar y ffordd y mae pob eglwys yn cyflawni.
Cyflwynwyd y strategaeth mewn Cynhadledd Esgobaethol Arbennig a gynhaliwyd ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf. Mae'n cynnwys pedwar cam.
Y cam cyntaf, i'w gwblhau erbyn diwedd eleni, yw ymarfer canfod ffeithiau er mwyn cael cipolwg cyfoes ar bob eglwys, yn seiliedig ar fatrics wyth pwynt a fydd yn nodi eglwysi sydd naill ai'n ffynnu, yn tyfu, yn dirywio neu’n marw.
Sefydlwyd tasglu sy'n cynnwys uwch glerigion esgobaethol, lleygion, swyddogion a staff i ymgymryd â'r gwaith, o dan yr enw, y Grŵp Garddio.
Ordeiniadau
Cafodd un offeiriad a phum Diacon newydd eu hordeinio yn y gwasanaeth traddodiadol ar Ŵyl San Pedr yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar 29 Mehefin, gwasanaeth ordeinio cyntaf yr Esgob Dorrien ers ei ethol fis Tachwedd diwethaf.
Y rhai a ordeiniwyd oedd: y Parchedig Sarah Llewellyn (Bro Sancler), Nicola Davies (Rhŵs), Liz Jones (Bro Caerfyrddin), Dr Romola Parish (Dyffryn Teifi), Luke Spencer (Daugleddau) a Sally Williams (Daugleddau).
Gweddïwch drostynt wrth iddynt gychwyn ar gam nesaf eu taith.
Llewod, Gwrachod a Chypyrddau
Roedd y digwyddiad codi arian blynyddol yn Eglwys Mihangel Sant, Mallwyd, yn dipyn gwahanol i’r arfer eleni. Yn hytrach na'r daith gerdded arferol yn y coed, arweiniodd y llwybr trysor hwn ymwelwyr i fyd hudol Narnia, a'r cyfan o fewn muriau'r eglwys. Cafodd pob tablo ei baratoi’n hyfryd gan y cynllunydd Janice Davies a Warden yr Eglwys Jenny Thomas gyda chymorth aelodau'r eglwys a'r gymuned ehangach.
Melodïau'r Môr Du
Fel rhan o Eglwys Sant Mihangel, Eglwysfach, cynhaliwyd cyngerdd gan Gôr Cymunedol K'ak'ali yn yr eglwys ar 14 Gorffennaf.
Côr cymunedol lleol sy'n deillio o'r traddodiad gwerin Sioraidd yw K’ak’ali, sy'n cael ei arwain ar y cyd gan Joan Mills a Linda Gwillim. Yn fwy diweddar mae Joan a Linda wedi ffurfio triawd newydd, Samaia, gyda Liz Walmsley, gan ganu repertoire o ganeuon menywod Sioraidd. Mae Linda a Joan hefyd yn aelodau o driawd Bright Field gyda Peter Gwynne, sy'n eu galluogi i gyfuno eu cariad at ganeuon Sioraidd gyda chyfansoddiadau a gosodiadau cyfoes yn Saesneg, gan ddefnyddio dulliau a harmonïau traddodiadol.
Roedd yr eglwys dan ei sang gyda chynulleidfa werthfawrogol ar gyfer y digwyddiad, a llwyddwyd i godi £420 tuag at Water Aid.
Barti Ddu
Ym mis Mai eleni, daeth merch ifanc, Noriko Osaki o ddinas Kochi, Japan, i’r Castell Newydd Bach yn Sir Benfro, man geni’r môr-leidr enwog, Bartholomew Roberts.
Amrywiol
Lyfr newydd
Mewn 16 traethawd gan ysgolorion o fri, caiff gyfraniad yr Eglwys yng Nghymru i hanes a diwylliant Cymru yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei ymchwilio yn ail gyfrol y gyfres ‘Gofal ein Gwinllan’.
Atgofion Ystrad Fflur
Mae Charles Arch yn cofio am ei blentyndod mewn ardal ac
Eglwys sy mor bwysig i ni’r Cymry