Hanesion Plentyndod Ficerdy
Siopa Rhan 2
Yn ein harddegau, wrth i ni gael arian poced, byddem yn crwydro strydoedd y dre ar ôl ysgol, cyn dal y bws adre. Dyma gyfle i brynu colur am y tro cynta, ‘false eyelashes’ a lipstic pinc llachar, a ‘Sheer Genius’ i roi ar ein wynebau. Ein harwres oedd Twiggy, er nad oeddwn yr un siâp o bell ffordd. Roedd prynu cylchgronau, ‘Honey’, a ‘Cosmopolitan’ hefyd yn agor ein llygaid diniwed i fyd tu hwnt i’n pentre! Ac wrth gwrs, roedd pori yn Woolworths yn fêl ar ein bysedd!

![Twiggy [https://meghagblog.wordpress.com/2016/03/29/twiggy-the-face-of-60s/#jp-carousel-33]](https://stdavids.contentfiles.net/media/images/twiggy-mod-fashion.width-500.jpg)
Roedd prynu dillad ysgol i fynd i’r Gram yn gam mawr pwysig. Rhaid oedd mynd i siop arbennig oedd â monopoli ar y blazer a’r tunic arbennig, a nicyrs crafog nefi-blw. Cost mawr oedd hyn i deuluoedd, yn enwedig wrth i blant dyfu mor gyflym. Dim ond dau bâr o sgidie oedd gyda ni fel arfer, sgidie ysgol a sgidie chwarae, ond i fynd i’r ysgol fawr rhaid cael daps a sgidie hoci. Gwastraff arian llwyr i un mor ddi-glem â fi bryd hynny!
Ond i gael dillad neu bethau ffansi, roedd yn antur i fynd i Abertawe, gan fod ein mamgu yn byw yn Nhreforys. Roedd carden arbennig i ganiatau mynd i warws J.T.Morgan, a byddem yn cael dewis a phrynu gwisg newydd erbyn y Sulgwyn- ffrog, sandalau, het wellt gyda blodau ac unwaith menig bach lês. Rwyn cofio’r cyffro o gael pâr o drowsus corduroy am y tro cynta, a phrynu sgidie sodlau uchel pan oeddwn yn forwyn briodas.
Dyma’r adeg pan roedd plant, ac yn enwedig rhai yn eu harddegau, yn stopio gwisgo yr un peth â’u rhieni. Rwyn credu taw dylanwad cylchgronau, ffilmiau a teledu rhoddodd i ni y ‘teenagers’ ein ffasiwn ein hunain. A dyma pryd daeth dillad bob-dydd fel jîns yn boblogaidd. A dyma’r cyfnod pan oedd bechgyn hefyd yn symud o drowsus cwta a sanau gwlân a oedd bob amser yn cwympo lawr yn anniben.
Yn y ‘Quadrant’ roedd dillad trendi mewn siopau fel Etam, Richard Shops a C and A. Byddem ein dwy yn prysuro heibio i siop ‘Evans, the Outsize shop’ rhagofn i bobl feddwl ein bod yn golygu prynu rhywbeth! Yn y warws cafodd Enfys got swêd, a chyn mynd i’r coleg fe ges i un ledr ddu, a fuodd gyda mi yn Aberystwyth am dair mlynedd yn ffyddlon.
O edrych ar drefi nawr, fe gofiaf â syndod nad oedd gyda ni, falle am nad oedd eu hangen, rifau enfawr o siopau elusen yn gwerthu dillad. Mae’r byd, a siopau, wedi newid.