Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Gyda chalon gynnes yn Alex

Gyda chalon gynnes yn Alex

Alexandria

Mae John Holdsworth yn ymweld â goleufa o obaith prin mewn ardal dinas fewnol helbulus

Mae Ras al Soda yn un o ardaloedd tlotaf Alexandria. Mae’n ardal ble mae cŵn yn cystadlu â geifr a phobl i adennill ac ail ddefnyddio unrhywbeth y gallant o domenni sbwriel pobl eraill a geir ym mhob man. Mae ei strydoedd cul yn dywyll a bygythiol. Mae’r tenementiau sy’n gartrefi i nifer o deuluoedd yn ymddangos yn ddigroeso ac mae naws gyffredinol o fygwth yma.

Alexandria Family Centre 1

Yn y lle anhebygol yma, mae Eglwys Anglicanaidd yr Aifft wedi rheoli Canolfan ddatblygu gymunedol a theuluol ers dros ugain mlynedd. Mae’n oleufa bywyd, diogelwch a gobaith mewn lle sy’n ymddangos yn llawn bywydau o anobaith.

Mae’r ganolfan yn croesawu pawb beth bynnag fo’u crefydd neu eu amgylchiadau. Mae yna raglenni ar gyfer plant, sy’n cadw llygad ar eu hiechyd a’u maeth ac mae peth gofal iechyd sylfaenol ar gael. Dysgir y teuluoedd i werthfawrogi eu plant, ac yn arbennig, yn groes i’w diwylliant, i werthfawrogi eu merched.

Alexandria Family Centre 2

Mae’r rhaglen My Dear Daughter wedi bod yn sylfaenol yn y Ganolfan i deuluoedd ble ceir plant bach y gorffennol nawr yn dychwelyd fel ieuenctid yn gwirfoddoli. Ceir atebion a chyngor ar faterion iechyd menywod. Mae FGM yn cael ei herio ac mae materion yn ymwneud â chamdrin a diogelu yn cael eu cymryd o ddifrif.

Gall gwragedd a theuluoedd gymryd mantais o’r benthyciadau bach sydd ar gael drwy’r Ganolfan. Mae un wedi cychwyn stondin bwyd stryd; un arall wedi cychwyn busnes gwneud patrymau crochet ar gyfer llenni; un arall wedi prynu tacsi tuk tuk o’r fath a welir ar draws y ddinas. Mae cyngor busnes ar gael hefyd, yn ogystal â chyngor a chefnogaeth barhaol.

Mae’r cyfnod cyn ysgol yn ffrwydriad o olau a gweithgaredd. Mae’r rhieni’n talu swm bychan i’w galluogi i gadw’r urddas o fedru prynu rhywbeth yn hytrach na gorfod dibynnu ar roddion.

Mae’r Eglwys yn gofalu an 250 o deuluoedd, cyfanswn o tua 1300 o bobl. Roedd dathliad diweddar o’r Ysgol Sul wedi denu 350 o blant a 140 oedolyn. Mae’r ardal yn 60% Cristnogol. Mae’n cynnal rhaglenni’n benodol ar gyfer cyplau. Eu nod yw cyfoethogi perthnasoedd yn seiliedig ar ddysgeidiaeth y Beibl ac mae tua 24 o bobl yng nghlwm â’r peth ar hyn o bryd.

Yn ddiweddar, dywedodd Deon yr Eglwys Gadeiriol a Deon Bro Alexandria, y Tad David Aziz, fod nifer o ddynion ifanc yr ardal wedi gadael mewn cychod bach i groesi’n anghyfreithlon i Ewrop. Mae’n amlwg pam fyddai hyn yn atyniadol ar yr wyneb . Ond mae ef am roi iddynt reswm digonol dros aros ac mae’n dwyn i’r amlwg yr angen am fwy o waith gyda’r bobl ifanc yma.

Nid yw’r cynhwysion hanfodol i’r Ganolfan, gwasanaeth brwdfrydig, cariadus Cristnogol, yn dangos unrhyw arwydd o redeg allan.