Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Tuag at Esgobaeth Ddwyieithog

Tuag at Esgobaeth Ddwyieithog

computer-keyboard-technology-high-blue-button

Adroddiad David Hammond -Williams ar fenter newydd.

Mae'r Esgobaeth wedi uno gyda chwmni sydd yn arbenigo i ddarparu gwasanaethau cyfieithu fel rhan o'n hymgyrch i gyhoeddi ein holl ddeunydd yn ddwyieithog.

Esgob Dorrien fydd yn gyfrifol am ddwyieithrwydd ar Fwrdd yr Esgobion ac mae hyn yn adlewyrchu y pwysigrwydd mae ef yn ei deimlo i ni symud tuag at agwedd iach a mwy cyson.

Testun, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, yw'r cwmni sydd wedi bod yn darparu cyfieithiadau i'r Eglwys yng Nghymru am nifer o flynyddoedd ac felly maent yn gyfarwydd â therminoleg eglwysig a gofynion eglwysi ac ardaloedd gweinidogaethau lleol, yn ogystal â byrddau a phwyllgorau yr esgobaeth.

Mae gan y cwmni bymtheg o gyfieithwyr, ac mae pob un ohonynt yn aelodau o Gymdeithas Cyfieithu Cymru. Gallant ddarparu 2,500 o eiriau ar gyfer y diwrnod canlynol ac mae'r gwasanaeth yn gweithio ddwy ffordd – Saesneg i Gymraeg a Chymraeg i Saesneg.

Mae'r gwasanaeth ar gael i unrhyw un hoffai ei ddefnyddio i’w heglwysi neu ardal weinidogaethu lleol.

Ond fe fydd rhaid talu. Mae'r cwmni yn codi £80+TAW am 1000 o eiriau.

Mae Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth yn deall y cymerir amser i roi strwythurau ariannol yn eu lle.

Felly, wrth i'r drefn ddechrau dylai pobl hoffai fanteisio gysylltu gyda Ysgrifennydd yr Esgobaeth, Howard Llewellyn, i drafod eu anghenion.