Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Sut dyfodd ein gerddi?

Sut dyfodd ein gerddi?

Grwp Resilience Garden 3

Y mae Grŵp Resilience yn fudiad annbiynnol yn gweithio at godi lles a gwytnwch cymuned, wedi ei leoli yn Sir Benfro. Y mae Vicky Moller yn egluro sut.

Wrth edrych i’r dyfodol y mae cymaint o ansicrwydd, problemau yn cyrraedd at lefel o argyfwng, y mae’n hawdd bod yn ofidus a chas. Cymerodd sioc annisgwyl Covid i ddod â thwf ysbryd cymunedol i helpu cymdogion. Yr oedd yr ymateb yn gryf iawn yn Sir Benfro gyda dros 90 o grwpiau’n cael eu sefydlu.

Trefnodd fy nith a finnau,wedi ein hysbrydoli gan gyfarfodydd stryd ‘Extinction Rebellion’ gyfarfodydd wythnosol arlein i gydlynwyr grŵp yn ystod Covid. Yna, wrth i’r cyfnod clo cyntaf gilio, trefnwyd cyfarfodydd ar lein mwy i edrych at y dyfodol yr oeddem am ei greu. O hyn tyfodd Grŵp Resilience yn Awst 2020. Nid oeddem ar ein pen ein hunain, ffurfiwyd grwpiau eraill gydag amcanion tebyg, Yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda sawl un ohonynt.

Y mae gwytnwch yn wrthwyneb i wasanaethau cyhoeddus, ac yn ategu atynt. Yr ydym yn cryfhau cymunedau a effeithiwyd gan her, i gyfarfod â her eu hunain tra’n galw am y cymorth sydd ei angen. Y mae hyn yn creu annibyniaeth grŵp yn hytrach na dibyniaeth.

Daeth ein bwriad cyntaf o thema cyffredin y cyfarfodydd mawr hynny, yr angen am dir i’n grwpiau cymunedol i ofalu a thyfu ohonynt. Hwn yw ein prif weithgaredd. Am flwyddyn ni allem ddod o hyd i dir yn ardaloedd trefol ble mae’r galw pennaf. Datblygodd ein partneriaid erddi cymunedol mewn ardaloedd mwy gwledig megis Tyddewi, gyda chymorth yr eglwys.

Ar ddiwedd 2021 daeth ein gwaith caled o gefnogi gerddi a rhandiroedd i fwcwl, a dechreuwyd cael cynnig tir. Yn y ddwy flynedd wedyn cychwynwyd pedwar safle newydd ac yn nawr rydyn yn brysio i ddal I fyny â chynigion.

Ble mae pobl yn dioddef o broblemau amlwg heddiw – seicolegol, ysbrydol, corfforol, cymdeithasol, ariannol – y mae tyfu cymunedol yn cyflawni gwyrthiau mewn ffordd dawel. Y mae galluogi’r tîm i drefnu’r safle eu hunain yn gwneud mwy. Y mae’n rhyfeddol gweld y brwdfrydedd a galluoedd yn tyfu wrth i bobl gael rhent teg, datrys gwahaniaethau, cynnwys grwpiau ag anghenion, dod yn gyfarwyddwyr cwmni, rhannu dysgu, offer ac adnoddau. Y mae’r ardd yn ffurf-lywodraeth feicro, lle i ailddarganfod y gallwn greu rheolaeth garedig gall gyda’n gilydd.

Y mae Grŵp yno am unrhyw her ddifrifol. Yr ydym wedi trafod carbon sero, llety, mewnfudo, ffermio a bywyd gwyllt. Y mae ein sefydliad partneriaid yn wynebu rhai o rhain ac eraill megis llygredd afon a môr.