Hafan Pobl Dewi: Mawrth 2024 Dyddiadur Offeiriad wedi ymddeol.

Dyddiadur Offeiriad wedi ymddeol.

CLJ [Diary March 2024].jpg

Nôl gyda'r praidd

Mae Christopher Lewis-Jenkins yn teimlo hunan werth unwaith eto.

Mi wnes i arwain yng ngwasanaeth y cymun a phregethu yn Bosherston , De Orllewin Sir Benfro ar y pedwerydd Sul yn yr Ystwyll ac rwy'n cofio dweud 'I rhai pobl mae henaint yn cynrychioli cael eich gadael ar y lan a bod yn ddiwerth' a rhaid i mi gyfaddef dyna fel oeddwn yn teimlo pan wnes i ymddeol yn 2020.

Doeddwn i ddim am ymddeol, felly cael fy ngwthio allan yw un ffordd o egluro sefyllfa, ac roedd yn anodd iawn i'w dderbyn. Erbyn hyn rwy'n gyfrifol am wasanaethau ac ambell swyddogaeth mewn tair eglwys ac yn teimlo fy mod yn cyflawni unwaith eto.

Am deimlad o orfoledd i dderbyn gwahoddiad i orseddiad ein hesgob newydd Dorrien. Rwy'n gorfoleddu i fod yn rhan o'r eglwys eto, ac i deimlo bod fy angen. Rwyn gwybod ei fod yn rhan o fy nghyfansoddiad a dyna sut oeddwn yn teimlo. Mae gennym broblem gyda rhifau clerigwyr ac rwy'n gweddio y bydd ein Hesgob newydd â chynllun i annog pobl i gynnig eu hunain i ganfod beth mae Duw am ganddynt, heb anghofio am y rhai sydd wedi rhoi a gwasanaethu ac yn dal i roi eu bywydau yn gwasanaethu pobl Duw yn yr Esgobaeth yma.