Twm Carnabwth a Merched Beca
Yn y flwyddyn 1839, roedd yna lawer o bobl yn gwrthryfela yn erbyn y tollbyrth, y clwydi mawr ar draws y ffyrdd, wedi eu codi gan berchnogion cyfoethog. Roedd yn rhaid i bawb dalu toll am ddefnyddio’r ffyrdd, ac roedd y perchenogion i fod i drwsio’r ffyrdd, ond doedd dim llawer o drwsio. Codwyd tollbyrth ar ffyrdd bach y wlad ac yn amhosibl teithio ymhell heb orfod talu llawer o arian a thalu nifer o weithiau. Ar un adeg, yng Nghaerfyrddin, roedd yna dri thollborth o fewn tair milltir.
Roedd pris y doll yn uchel hefyd, - pum ceiniog am geffyl a throl, naw ceiniog am ddeuddeg o wartheg, pum ceiniog am ddeuddeg o ddefaid, arian mawr yr adeg honno.
Daeth criw o ddynion at ei gilydd yng ngogledd Sir Benfro i drafod y sefyllfa. Penderfynwyd cynnal protest. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn ffermwyr bach tlawd, a galwyd eu mudiad protest yn Ferched Beca. Roedden nhw’n gwisgo dillad merched, ac yn duo eu hwynebau rhag i neb eu nabod. Eu bwriad oedd torri a malurio’r tollbyrth a llosgi’r tolltai.
Y tollborth cyntaf i gael ei dorri oedd un Efailwen. Daeth tua phedwar cant o ddynion yno fin nos yn gwisgo dillad merched, wedi duo eu hwynebau ac yn cario pladuriau, ffyrch gwair, barrau haearn a bwyeill i falurio a llosgi’r tollborth.
Y Beca cyntaf yn yr ymgyrch yn Efailwen oedd Thomas Rees o Fynachlogddu, neu Twm Carnabwth fel y’i gelwid. Roedd Twm yn ddyn mawr ac yn enwog am baffio mewn ffeiriau.
Fis ar ôl malurio tollborth Efailwen codwyd un arall yno, a daeth Merched Beca eto a’i dinistrio eto. Ni chodwyd y tollborth wedyn yn Efailwen.
Bu Merched Beca yn ymosod yn ffyrnig iawn ar y tollbyrth ac yn ymosod ar blastai sgweieriaid amhoblogaidd, a’u llosgi.
Roedd arweinyddion gwahanol i bob ardal. Roedd llawer Beca – dynion fel Sioni Sgubor Fawr a Dai’r Cantwr. Cafodd y ddau eu dal, eu carcharu a’u halltudio i Awstralia.
Roedd Merched Beca yn ymosod a diflannu, roedd hi’n anodd iawn i wybod pwy oedd Merched Beca na lle byddent yn taro ac nesaf.
Wedi i nifer o dollbyrth gael eu malurio bu’n rhaid i’r Llywodraeth gymryd sylw. Daeth Comisiwn Brenhinol i Ddyfed i edrych i gwynion Merched Beca. Pasiwyd deddf newydd yn dweud mai un cwmni fyddai piau’r tollbyrth yn Nyfed o hynny allan, a gostyngwyd y pris. Buddugoliaeth i fudiad Merched Beca!