Profiad o weithio (gwirfoddoli) gyda Byddin yr Iachawdwriaeth yn nhref Caerfyrddin
Eglwys Gristnogol yw Byddin yr Iachawdwriaeth ac yn gweithio yn rhyngwladol mewn dros 128 o wledydd ar draws y byd, gyda dros 15,000 o eglwysi a dros miliwn o filwyr! Dechreuwyd yn 1865 yng nghyfnod Fictoria ar strydoedd tlawd dwyrain Llundain, gan William a Catherine Booth.
Mae eu gwaith yn amrywio o ledu y Gair a phregethu, i ymateb i drychinebau mawr ar draws y byd ac i ymwneud â gofynion yr anghenus yn lleol. Y mae ganddynt gartrefi ar gyfer plant, pobol ifanc ac oedolion ; mae pwyslais mawr ar y digartref, y ffoadur, y rhai mewn dibynniaeth (o bob math) ac hefyd mewn olrhain teuluoedd.
Agorodd y Fyddin ganolfan ar Heol Las (Blue Street) yng Nghaerfyrddin yn 1885 gan wasanaethu yn ddiwyd yn y dref tan y 40au. Y mae adeilad arall yn ganolfan cymunedol, sydd yn agored bore dydd Mawrth a dydd Iau gan gynnig pob math o wasanaeth. Cynhelir cyfarfodydd eraill drwy apwyntiad. Dechreuais innau wirfoddoli i’r Fyddin yn 2013.
Rwyf innau yn Gristion ac yn aelod mewn capel Annibynwyr ac ar hyn o bryd yn ddiacon. Ar ôl ymddeol o’m gwaith gyda chyfrifiaduron yn 2011, cefais gyfnod amhleserus , symud o fod mewn gwaith prysur iawn a chyfrifol, i fod yn sydyn heb drefn a dim byd i’w wneud. Un cysur annoeth oedd troi yn ôl at y botel !
Wrth i mi waethygu, estynnais allan am gymorth. Diolch i Dduw fe’m cyfeiriwyd at yr Ystafell Fyw yng Nghaerdydd, dan ofal Wynford Ellis Owen. Trwy hyn, a chymorth fy nheulu, yr wyf heddiw yn hapus fy myd. Ar ddechrau fy adferiad cyfarfyddais â Chapten y Fyddin yng Nghaerfyrddin a ddaeth yn gyfaill, ac rwyn helpu eraill yn y ganolfan bob dydd Mawrth. Cynigir drws agored a chymorth mewn nifer fawr o ffyrdd; megis te a chlonc i siarad, un-am-un dwysach mewn preifatrwydd, cawod a dillad glân, cyngor ariannol a help gyda ffurflenni, sesiwn ysgol Sul , cinio twym i’w fwyta a chymdeithasu
Ceir hyfforddiant mewn nifer fawr o feysydd :diogelwch, glendid, rheolau, dibynniaeth, cymorth cyntaf… Mae’r Capten yn gyfrifol am y cyfan , a’r gwasanaeth Cristnogol ar y Sul.
Braint yw bod yn rhan fach iawn o’r gwasanaeth hollol bwysig yma y mae’r Fyddin yn ei ddarparu i frodorion Caerfyrddin. Diolchaf am y modd cefais fy arwain yma – a hynny i gyd oherwydd i mi agor i fyny, a rhannu fy stori.
Felly, os oes rhywbeth yn eich poeni, rhannwch ef, ac yna ……
neu, os oes cyfle gennych, rhowch glust i wrando ar boen rhyw ddieithryn!