Yr anadl rhyngom

Ddydd Sul, 24 Mai, yn Neuadd Sant Pedr, Caerfyrddin, daeth un gwirionedd i'r amlwg: 'ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain'. Kristie Godden-Lamb sy’n ymuno â'r cynulliad eciwmenaidd
Fe ddeilliodd yr arllwysiad Pentecostaidd hwn o ddiolchgarwch o awydd llawn gras yr Esgob Dorrien i ddod â ni at ein gilydd fel un corff yng Nghrist. Roedd yn ofod llawn llawenydd, yn fywiog ac eto’n llawn presenoldeb tawel, trawsnewidiol yr Ysbryd Glân.
Gyda’r noson wedi'i threfnu gan yr Archddiacon Mones Farah, fe’n gwahoddwyd i gyfnod o gysylltiad didwyll. Roedd lleisiau côr yr Eglwys Gadeiriol yn atseinio trwy'r neuadd, ac, wrth i ni i gyd ymuno, roedd modd teimlo’r undod yn yr ystafell.
Mewn eiliad o dawelwch dwfn, adroddodd yr Archddiacon Mones Weddi yr Arglwydd yn Aramaeg, iaith yr Iesu, gyda’r ystafell yn llonyddu mewn parch a gwyleidd-dra. Yn dilyn hyn, cynhaliodd yr Archddiacon a'r Parch Sarah Llewellyn gyfweliadau meddylgar, ac roedd y cyfnodau hyn o ras yn deimladwy dros ben.
Siaradodd y Parch Mark O'Toole, Archesgob Caerdydd-Mynyw, am yr Ysbryd fel yr anadl sy'n ei symud bob bore, angor ei ildio beunyddiol. Yna tro’r Parch Beti Wyn James, cyn-lywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, oedd hi a thynnodd ein sylw at agosatrwydd domestig ffydd, gan gofio cysur coflaid ei mam wrth y tân, delwedd hyfryd o sut y mae'r Ysbryd yn tynnu'r enaid crynedig i gynhesrwydd presenoldeb Duw. Cynigiodd y Gwir Barchedig Ddr Sarah Rowland Jones, Deon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, dystiolaeth ddewr o waith yr Ysbryd yn y distawrwydd o golled, gan ddisgrifio presenoldeb sy'n cario pwysau galar pan fyddwn yn rhy flinedig i sefyll.
Yna myfyriodd yr Esgob Dorrien yn ysbrydoledig ar Sant Pedr, a sut y trawsnewidiwyd y pysgotwr, a oedd unwaith mor ofnus, yn y Pentecost gan yr hyder absoliwt a ddeilliodd o adnabod cariad perffaith. Rydyn ni, hefyd, yn cael ein caru i’r un graddau gan yr Ysbryd Glân. Pan fyddwn yn cael ein meithrin yn dyner gan y presenoldeb hwn, mae ein llygaid yn cael eu hagor i adnabod Crist yn wyneb y dieithryn.
Roedd y noson yn dilyn y diwrnod Agored i Dduw lle’r ymgasglodd cannoedd i addoli ar Faes Sioe Caerfyrddin. Wrth i ni symud ymlaen, rydyn ni’n cario'r gydnabyddiaeth bod cenhadaeth yn fywyd i'w dywallt - yn union fel y tywalltodd Crist ei fywyd trosom mewn cariad, cawn ninnau ein galw i gyflwyno eraill i ryddid Crist. Nid diwedd oedd y penwythnos hwn, ond anadl gyntaf tymor newydd, gwahoddiad i gamu allan i'r byd, gan arddel y tân a’n denodd ni yn y lle cyntaf.