Hafan Pobl Dewi: Mehefin 2026 Rhywbeth i bawb

Rhywbeth i bawb

RS Thomas at the Iron Room.png

Bydd Eglwys Sant Mihangel, Eglwys-fach, ger Machynlleth, yn cynnal Gŵyl Lenyddol a Chystadleuaeth Farddoniaeth R S Thomas, a gynhelir bob dwy flynedd, yn ystod penwythnos 25-27 Medi.

Mae'r ŵyl yn dathlu gwaddol ei chyn-fardd-ficer enwog yn ystod tri diwrnod o farddoniaeth, gwasanaethau, sgyrsiau, teithiau cerdded a cherddoriaeth. Wedi'i hysbrydoli gan fywyd gwyllt a harddwch naturiol Dyffryn Dyfi, mae'r rhaglen hefyd yn dod â beirdd newydd a beirdd profiadol ynghyd ar gyfer ei chystadleuaeth farddoniaeth boblogaidd.

Cynhelir yr ŵyl eleni er cof am ei sylfaenydd Joy Neal, a fu farw ym mis Rhagfyr 2024.

Mae'r rhestr gyffrous o ddigwyddiadau yn dechrau brynhawn Gwener gyda thaith gerdded, dan arweiniad Richard Suggett, David Billingsley, Nicola Roberts ac Owen Shiers, gan archwilio'r dirwedd a ysbrydolodd R S Thomas yn ystod ei gyfnod yn Eglwys-fach, ac yna te yn yr Ystafell Haearn. Gyda'r nos bydd Owen Shiers yn ystyried y cysylltiadau rhwng pobl, y tir, barddoniaeth a cherddoriaeth, mewn sesiwn o'r enw Singing the Land.

Bydd digwyddiadau dydd Sadwrn yn dechrau gyda Gwasanaeth Gweddi Foreol, dan arweiniad y Parchedig Lynn Rees gyda'r Parchedicaf Cherry Vann, Archesgob Cymru, yn pregethu. Yn y prynhawn bydd yr Athro Jason Walford Davies a’r Athro Tony Brown o Brifysgol Bangor mewn sgwrs agored yn trafod gweithiau cynnar R S Thomas ac, yn ddiweddarach, bydd y bardd a'r artist, Roger Wagner, yn ystyried y cysylltiad rhwng tirwedd a barddoniaeth. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda chyngerdd o'r enw Poems of Stillness a fydd yn cynnwys gosodiad Hilary Tann o farddoniaeth R S Thomas i gerddoriaeth, gyda diodydd a bwyd bys a bawd i ddilyn.

Bydd dydd Sul yn dechrau gyda gwasanaeth Cymun Sanctaidd, ac yna cyflwyniad, o'r enw Parch a Bri mewn Barddoniaeth, gan y bardd a'r dramodydd, Menna Elfyn.

Mae’r teithiau cerdded, sgyrsiau, cyflwyniadau a chyngherddau yn costio £10 yr un (codir ffioedd archebu); gyda’r gwasanaethau yn ddigwyddiadau am ddim.

Bydd y penwythnos yn dod i ben gyda'r gystadleuaeth farddoniaeth y mae croeso i feirdd gyflwyno cerddi iddi, gyda gwobrau o £250, £100 a £40. Mae canllawiau cyflwyno llawn ar gael ar y wefan neu ar gais (gweler isod). Y ffioedd mynediad yw £10 am un gerdd a £15 am ddwy gerdd. Bydd beirdd yn darllen eu ceisiadau yn ystod y prynhawn.

Am fanylion llawn, ewch i www.eglwysfach.co.uk neu cysylltwch ag Alison Swanson a fydd yn hapus i anfon llyfrynnau neu ddarparu rhagor o wybodaeth: mailto:alisonswanson7@icloud.comalisonswanson7@icloud.com; ffôn 01654781322; symudol 07834 884096. Mae tocynnau ar gael ymlaen llaw ar Eventbrite yn: https://www.eventbrite.co.uk/e/r-s-thomas-literary-festival-and-poetry-competition-2026-tickets-1984299523290. Bydd tocynnau hefyd ar gael ar y drws ar ddiwrnod y digwyddiad.